Mae’r Tîm Cyfathrebu, Rheoliadau a Chyhoeddiadau Digidol yn gyfrifol am oruchwylio, adolygu a datblygu rheoliadau a pholisïau’r Brifysgol a sicrhau eu bod yn cael eu cyfleu’n effeithiol i’r holl staff a myfyrwyr. Rydym yn datblygu adnoddau i staff a myfyrwyr, megis llawlyfrau, canllawiau a chodau ymarfer a’u cyhoeddi nhw ar dudalennau gwe’r Brifysgol a’r platfform digidol. Rydym yn gwella prosesau a strategaethau cyfathrebu’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn barhaus, er mwyn sicrhau bod staff a myfyrwyr yn gallu dod o hyd i wybodaeth y mae ei hangen arnynt yn hwylus.

 

Swyddog Datblygu Ansawdd Academaidd, Cyfathrebu

Swyddog Datblygu Ansawdd Academaidd, Cyfathrebu

Fiona Rees-Cridland, Swyddog Datblygu Ansawdd Academaidd, Cyfathrebu, Rheoliadau a Chyhoeddiadau Digidol

 

 

 

Ymunodd Fiona Rees-Cridland â Phrifysgol Abertawe ym 1997 a chyn hynny, bu’n gweithio ym Mhrifysgol Bangor. Mae gan Fiona brofiad helaeth ym maes gweinyddiaeth addysg uwch, ac mae ganddi arbenigedd mewn asesu myfyrwyr, rheoliadau a gweithdrefnau, graddio, achosion myfyrwyr, sicrhau ansawdd, apeliadau myfyrwyr a materion sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu. Yn flaenorol, bu Fiona yn Ohebydd Cangen Cymdeithas Gweinyddwyr Prifysgolion ac ar hyn o bryd, mae’n aelod cysylltiol o Gymdeithas Rheolwyr Prosiect ac mae ganddi gymhwyster rheoli prosiectau.

Ebost: f.rees@swansea.ac.uk

Swyddog Datblygu Ansawdd Academaidd, Cyfathrebu

Swyddog Gwella Ansawdd Academaidd, Cyfathrebu

Joanna Parketny, Swyddog Gwella Ansawdd Academaidd, Cyfathrebu, Rheoliadau a Chyhoeddiadau Digidol

 

 

 

Ymunodd Joanna â Phrifysgol Abertawe yn 2017. Mae Joanna wedi cael profiad proffesiynol amrywiol ym maes addysg uwch yn ogystal â sicrhau ansawdd, sy’n deillio o’i gwaith blaenorol yn y Sefydliad Niwrowyddoniaeth Niwrowyddoniaeth Wybyddol, Coleg Prifysgol Llundain, Labordy’r Ymennydd ac Ymddygiad yn Birkbeck, a’r Rhwydwaith Ansawdd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Fforensig yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion.  

Ebost: joanna.parketny@swansea.ac.uk