Safonau Gofynnol Prifysgol Abertawe ar gyfer Ymarfer Addysg
- Amdanom ni
- Canmlwyddiant 2020
- Hanes a threftadaeth
- Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
- Bywyd y campws
- Cynaliadwyedd
- Chwaraeon
- Astudio
- Datblygu'r Campws
- Swyddfa'r Wasg
- Sut i ddod o hyd i ni
- Diwrnod Agored Rhithwir
- Ein Cyfadrannau
- Swyddi a Gweithio yn Abertawe
- Academi Hywel Teifi
- Adran Partneriaethau Academaidd
- Gwasanaethau Academaidd a Cyfarwyddiaeth yr Academïau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Codau Ymarfer
- Sicrhau Ansawdd
- Polisïau
- Polisi Prifysgol Abertawe ar Recordio Darlithoedd a Chynnwys
- Platfform Dysgu Digidol: Polisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau
- Polisi Cadw Cyrsiau’r Amgylchedd Dysgu
- Polisi Adborth Modiwlau
- Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth am Fodiwlau
- Polisi ar Arsylwi ar Addysgu gan Gymheiriaid
- Polisïau sy'n Ymwneud ag Addysg
- Polisïau Eraill
- Safonau Gofynnol Prifysgol Abertawe ar gyfer Ymarfer Addysg
- Adolygiad Ansawdd
- Polisïau
- Cwrdd â Thîm
- SALT
- Llyfrgelloedd ac Archifau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Hygyrchedd
- Cynwysoldeb ac Ehangu Mynediad
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Staff
- Gwerthoedd
- Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton
- Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
- Ymrwymiad i Technegwyr
1. Trefnu
1.1
Yn ystod y cyfnod pan fydd myfyrwyr yn cyrraedd/sefydlu, dylech chi ddarparu gwybodaeth glir am eich cyfeiriad e-bost a'ch oriau swyddfa pan fyddwch ar gael i fyfyrwyr, rhannu manylion ar eich llofnod e-bost ac ar ddrws eich swyddfa a'u cadw'n gyfredol. Dylai'r oriau hyn fod yn ystod oriau addysgu arferol ar adeg sy'n cyd-fynd ag amserlenni myfyrwyr perthnasol. Dylid cynnig dwy awr swyddfa ar wahân bob wythnos, wedi'u hamseru ar adegau priodol yn ystod yr wythnos yn ystod y tymor.
1.2
Dylai staff ymdrechu i ymateb i e-byst myfyrwyr yn ystod oriau gwaith arferol ac o fewn dau ddiwrnod gwaith. Os oes angen rhagor o amser, dylech gydnabod yr e-bost a chynnig amser i ymateb. Pan fyddant yn absennol, dylai staff ddefnyddio neges 'allan o'r swyddfa' i roi gwybod i'w myfyrwyr, y rhai maent yn diwtoriaid iddynt a'u myfyrwyr prosiect â phwy dylent gysylltu, gan roi cyfeiriad e-bost.
1.3
Lle bynnag y bo modd, dylech roi cymaint o rybudd â phosib, ac o leiaf 24 o rybudd, os oes angen canslo darlithoedd a rhannu gwybodaeth am unrhyw ddysgu neu ddarllen annibynnol gallwch ei awgrymu.
1.4
Peidiwch â newid amserlenni ar y funud olaf os oes modd, a chytunwch ar fformat cyson ar draws y Gyfadran ar gyfer rhoi gwybod i fyfyrwyr am newidiadau'n effeithlon.
2. Dysgu ac Addysgu
2.1
Sicrhewch fod tudalennau cyrsiau ar Canvas yn bodloni'r safonau a'r disgwyliadau gofynnol fel y'u nodir yn y Platfform Dysgu Digidol: Polisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau.
2.2
Mae gwybodaeth lawn am fodiwlau ar gael ar Canvas ar ddechrau'r tymor academaidd, gan fanylu ar yr amserlen addysgu, dulliau a phynciau i'w hastudio, rhestrau darllen llawn ac unrhyw fanylion perthnasol eraill, megis manylion cyswllt. Dylai'r wybodaeth hon gael ei chyhoeddi wythnos cyn dechrau'r tymor.
2.3
Dylai deunyddiau dysgu ar gyfer pob sesiwn fod ar gael o leiaf 48 awr ymlaen llaw mewn fformat hygyrch.
2.4
Dylai'r holl weithgareddau addysgu gael eu recordio a'u postio o fewn dau ddiwrnod gwaith. Darllenwch Bolisi Prifysgol Abertawe ar Recordio Darlithoedd am ragor o fanylion. Gellir gwneud eithriadau ar gyfer gweithgareddau penodol megis cyrsiau maes, sesiynau ymarferol, gweithdai a seminarau, neu os bydd y system TG yn methu. Lle mae'r system TG wedi methu, ystyriwch bostio deunyddiau o'r flwyddyn flaenorol neu gyfeirio myfyrwyr at adnoddau ategol eraill.
2.5
Gwnewch yn siŵr bod gofynion dysgu penodol myfyrwyr, gan gynnwys astudio drwy'r Gymraeg neu ddewisiadau cyfathrebu, yn cael eu gwirio ar ddechrau'r tymor addysgu a thrwy gydol y tymor, fel bod staff yn ymwybodol o ofynion addasu rhesymol ar gyfer myfyrwyr ar eu modiwlau.
2.6
Cymerwch ran mewn modd effeithiol a chyson mewn prosesau sydd â'r nod o gynnal a gwella ansawdd a safonau, megis darparu diweddariadau ynghylch pro-fformas modiwlau, cymedroli asesiadau a gwerthuso modiwlau.
2.7
Gwnewch yn siŵr bod myfyrwyr yn cael gwybod am y model adborth gwerthuso modiwlau, ynghyd â chyfleoedd eraill i roi adborth, pam mae'n bwysig a sut mae'n cael ei ddefnyddio. Gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu gwahodd a'u hannog i roi adborth parhaus am ddulliau a deunyddiau dysgu, modiwlau a rhaglenni. Ymatebir i'r holl adborth gan fyfyrwyr ar adegau priodol, wrth i'r modiwl gael ei addysgu i sicrhau bod y cylch adborth yn cael ei gwblhau.
2.8
Dylai adnoddau ategol ar-lein gael eu darparu i'r holl fyfyrwyr, gan gynnwys lle bo'n briodol restrau priodol â diffiniadau clir o iaith dechnegol, symbolau a thermau allweddol.
2.9
Cyn i'r addysgu ddechrau, dylai staff ymweld â'u lleoedd addysgu ac ymgyfarwyddo â'r cyfarpar clyweledol a recordio darlithoedd.
2.10
Dylai staff adael yr ystafell mewn cyflwr priodol i alluogi'r gweithgaredd addysgu nesaf i gael ei gynnal yn effeithlon (e.e. peidiwch â diffodd cyfrifiaduron na symud ceblau HDMI, cliriwch y bwrdd a gosod microffonau yn eu gwefrwyr). Dylai gweithgareddau addysgu lynu wrth yr amserau a ddynodir iddynt a chaniatáu amser i fyfyrwyr gyrraedd a gadael (e.e. mae darlithoedd yn dechrau ar yr awr ac yn gorffen am ddeng munud i'r awr).
2.11
Dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda'r cyfarpar cylweledol a recordio er mwyn sicrhau bod modd cynnal darlithoedd dilynol yn effeithlon. Ffoniwch estyniad 4000 os oes problem mae angen ei datrys ar unwaith, e.e. cyfarpar y ddarlithfa'n methu. Os nad yw'r ymholiad yn un brys, e-bostiwch AVsupport@abertawe.ac.uk. Gweler Gwasanaethau Clyweledol - Prifysgol Abertawe.
2.12
Rhaid i'r holl staff addysgu gymryd rhan yn y broses arsylwi gan gymheiriaid o leiaf unwaith y flwyddyn.
3. Asesu a Marcio
3.1
Ar gyfer pob modiwl, darparwch amlinelliad a dadansoddiad eglur am sut mae'r modiwl yn cael ei asesu a'r meini prawf marcio. Lle bynnag y bo modd, darparwch gyfarwyddiadau marcio. Dylid darparu arweiniad clir ynghylch sut i gwblhau pob asesiad a sut i gael gafael ar adborth a'i ddefnyddio.
3.2
Ni ddylai asesiadau a chyflwyniadau gael eu gosod y tu allan i oriau addysgu, dros y penwythnos neu pan fydd y Brifysgol ar gau. Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i fyfyrwyr mae angen estyniadau arnynt oherwydd amgylchiadau esgusodol, wrth bennu'r dyddiad cau cyflwyno.
3.3
Gwnewch yn siŵr bod myfyrwyr yn ymwybodol o reolau neu reoliadau asesu penodol, er enghraifft, rheoliadau presenoldeb neu fodiwlau lle nad oes modd gwneud iawn am fethiant.
3.4
Ni ddylai dyddiadau cau asesu gael eu newid, gan gynnwys pan fydd myfyrwyr yn derbyn eu marc dros dro a'u hadborth, ac eithrio i ddiwallu anghenion penodol a dilys myfyrwyr. Dylid rhoi gwybod yn glir i fyfyrwyr a'r timau addysgu am newidiadau.
3.5
Darparwch adborth cadarnhaol, adeiladol, defnyddiol o safon o fewn 15 niwrnod gwaith. Peidiwch â defnyddio sylwadau ac ymadroddion bychanol. Os nad ydych chi'n gallu bodloni dyddiad cau marcio, rhowch wybod i Gyfarwyddwr y Rhaglen cyn gynted â phosib. Ar ôl i’r holl randdeiliaid perthnasol gytuno ar ddyddiad pan ddisgwylir cyhoeddi'r marciau, rhowch wybod i'r myfyrwyr.
3.6
Dylai nifer o hen bapurau arholiad neu asesiadau amgen, neu set o gwestiynau arholiad 'nodweddiadol', fod ar gael i fyfyrwyr.
4. Tiwtora Personol a Goruchwylio Myfyrwyr
4.1
Cysylltwch â'r myfyrwyr byddwch yn eu tiwtora yn ystod y cyfnod cofrestru/sefydlu i drefnu eich cyfarfod cyntaf ac i’ch cyflwyno eich hun. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod sut i gysylltu â chi, eu bod yn deall eich rôl a'i disgwyliadau a thrafodwch fformat ac amlder y sesiynau â nhw. Dylid cynnal o leiaf bedair sesiwn drwy gydol y flwyddyn academaidd a dylai'r rhain fod yn gymysgedd priodol o sesiynau unigol a sesiynau grŵp.
4.2
Gwnewch ymdrech i hyrwyddo ymrwymiad Prifysgol Abertawe i bwysigrwydd Llais y Myfyrwyr a Phartneriaeth â'r Myfyrwyr Esboniwch y ffyrdd gwahanol y gall myfyrwyr roi adborth unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn a mynegi eu barn, gan gefnogi deialog rhwng staff a myfyrwyr, gan gynnwys yn ystod eich sesiwn tiwtora personol un i un.
4.3
Dylech chi gwrdd â'ch myfyrwyr prosiect cyn gynted â phosib i'w rhoi ar ben ffordd a phennu'r disgwyliadau o ran goruchwylio ac ymrwymiad i'r prosiect. Dylid darparu arweiniad priodol a lefelau priodol o gymorth drwy gydol y prosiect a dylai cyflwyniad drafft gael adborth ar ffurf sylwadau adeiladol. Dylid rhoi gwybod i fyfyrwyr traethawd estynedig am unrhyw gyfnodau absenoldeb cyn gynted â phosib.
4.4
Llenwch y system presenoldeb Tiwtora Personol, hyd yn oed os nad yw myfyrwyr yn ymgysylltu neu'n bresennol.
4.5
Defnyddiwch y botwm Testun Pryder i roi gwybod i'r Tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr os oes gennych bryderon am fyfyriwr. Byddant yn gweithredu ar hyn gan gysylltu â'r myfyriwr i gynnig cymorth.
5. Ymddygiad Proffesiynol
5.1
Dylai staff drin eraill â pharch ac ymddwyn mewn modd proffesiynol.
5.2
Bydd staff yn ceisio ymdrin â materion a godir gan fyfyrwyr mewn modd prydlon a rhoi adborth ar unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd.
5.3
Dylai staff fod yn ymwybodol o'r holl bolisïau a rheoliadau perthnasol a sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o'r rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol: Polisïau - Prifysgol Abertawe.
5.4
Os bydd myfyrwyr yn cyrraedd sesiwn ar y safle'n hwyr, dylai staff ganiatáu i fyfyrwyr ddod i mewn heb amharu ar eraill.
5.5
Y brif ffordd o gyfathrebu yw system e-bost y Brifysgol.
5.6
Mae'n ofynnol i staff fod ar gael ar gyfer cyfnodau asesiadau atodol os oes ganddynt asesiadau ar waith. Os na fydd staff ar gael, dylent gael cymeradwyaeth gan yr Ysgol/Gyfadran. Dylid sicrhau aelod priodol o'r staff i gyflenwi yn eu lle a darparu'r enw i'r tîm addysgu perthnasol (e.e. Cyfarwyddwr y Rhaglen, Pennaeth y Flwyddyn).
5.7
Bydd yr holl staff sy'n ymwneud ag addysgu fynd i'r Byrddau Astudio a'r Byrddau Arholi perthnasol.