Anrhydedd Cyfunol, BA (Anrh)

BA Anrhydedd Cyfun

Dy Radd Di, Dy Ffordd Di

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein BA Anrhydedd Cyfun ar eich cyfer chi os yw eich diddordebau'n cwmpasu sawl disgyblaeth academaidd yn y Dyniaethau, gan ganiatáu ichi ganolbwyntio ar ddadleuon cysylltiedig ynddynt a rhyngddynt. Mae'n gyfle cyffrous a heriol i lunio eich rhaglen radd eich hun o restr helaeth o fodiwlau. Mae ein rhaglen yn eich galluogi chi i astudio pynciau nad ydynt ar gael fel rhaglenni cydanrhydedd sefydledig, a datblygu sylfaen wybodaeth eang a sgiliau amlddisgyblaethol.

Addaswch eich astudiaethau ar draws llenyddiaeth a diwylliant, treftadaeth a hanes, y cyfryngau ac ieithoedd modern i archwilio dylanwad y Dyniaethau ar y byd. Mae ein BA Anrhydedd Cyfun yn rhaglen radd heriol, wobrwyol a hyblyg, a fydd yn eich helpu i ganolbwyntio ar eich diddordebau unigol, eich cryfderau a'ch nodau gyrfa hirdymor.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig modiwlau wedi'u grwpio'n dair 'dewislen'. Rhaid i fyfyrwyr ddewis modiwlau o Ddewislen A (Astudiaethau Diwylliannol) a B (Y Gorffennol a'r Presennol); tra bod Dewislen C (Ieithoedd) yn cynnig modiwlau dewisol.

Pam Astudio Anrhydedd Cyfun yn Abertawe?

Mae'r rhaglen radd ryngddisgyblaethol hon mor unigryw â chi. Os yw eich diddordebau yn y Dyniaethau, bydd yn eich galluogi chi i greu eich rhaglen radd bersonol eich hun, trwy gyfuniad agored o fodiwlau a meysydd pwnc. Y canlyniad yw cymysgedd o wybodaeth, gallu a phrofiad sy'n unigryw i bob myfyriwr.

Ar hyd y ffordd, byddwch yn cael y cyfle i ymchwilio i ddisgyblaethau amrywiol ac archwilio dylanwadau gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac ideolegol ar gymdeithasau'r gorffennol a'r presennol.
 Yn ogystal, drwy ddewis modiwlau ar draws y celfyddydau a'r dyniaethau, byddwch yn dod yn addasadwy ac yn hyblyg mewn ymateb i ystod o amgylchiadau, gyda llygad craff am fanylion a gallu gwell i feddwl yn feirniadol, byddwch yn gallu gweld y darlun ehangach, sgil y mae galw mawr amdano ymysg darpar gyflogwyr.
 
Cynhelir y rhaglen hon yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn Abertawe, sy’n gartref i addysgu sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang:

  • 100% Bodlonrwydd Cyffredinol (NSS 2025) Astudiaethau Americanaidd ac Awstralasiaidd, C28, NSS 2025
  • Mae Saesneg yn y 12fed safle yn y DU am Foddhad am Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • Mae Cyfryngau yn y 5ed safle yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Mae Ieithoedd Modern yn y 5ed safle yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Guardian University Guide 2026)

Cynhelir y cwrs hwn ar ein Campws Singleton, gyda golygfa o Fae Abertawe, ac wrth ymyl parcdir eang. Byddwch hefyd yn agos at ddinas Abertawe, dinas fywiog, amlddiwylliannol, ddiogel a fforddiadwy. Mae ystod eang o opsiynau llety i fyfyrwyr sydd eisiau byw naill ai ar y campws neu oddi arno.

Byddwch yn elwa o gymuned academaidd a myfyrwyr feithringar a chynhwysol. Y tu hwnt i'ch astudiaethau mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gwahanol glybiau a chymdeithasau chwaraeon. Mae'r rhain yn cynnwys Cymdeithas y Byd Hynafol, Cymdeithas Astudiaethau Americanaidd, Cymdeithas Ysgrifennu Creadigol, Y Gymdeithas Hanes, Cymdeithas y Cyfryngau, a chaffis iaith wythnosol.

Eich Profiad Anrhydedd Cyfun

Bydd y rhaglen radd gyffrous ac amrywiol hon yn eich galluogi i brofi amrywiaeth o bynciau a themâu, gan roi dealltwriaeth eang a manwl i chi o'r byd. Byddwch yn cael eich addysgu ar draws amrywiaeth o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai gan elwa o siaradwyr gwadd, ymweliadau astudio a chyfleoedd am leoliadau gwaith.
 
Mae'r rhaglen radd hon ar gael fel rhaglen tair blynedd. Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnwys cyfleoedd i ymgymryd â Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. Ar ben hynny, mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy na £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Ar y campws byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau gyda mynediad at ein hadnoddau a'n cyfleusterau rhagorol. Mae'r rhain yn cynnwys llyfrgelloedd ac ystafelloedd cyfrifiadurol pwrpasol, casgliadau Archif Richard Burton, ein hamgueddfa unigryw ar y campws, sef y Ganolfan Eifftaidd, mannau Celfyddydau a Diwylliannol Taliesin, stiwdios ffilm sydd ag offer golygu llawn, a labordai cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.

Cyfleoedd Cyflogaeth Anrhydedd Cyfun

Mae'r rhaglen hon yn cynnig ystod eang o opsiynau gyrfa sy'n eich galluogi chi i ddilyn eich angerdd a llywio eich dyfodol eich hun.

Bydd ein gradd Anrhydedd Cyfunol yn rhoi hwb i'ch sgiliau amlddisgyblaethol gan gynnwys sgiliau ymchwil, trefnu a meddwl beirniadol eithriadol, yn ogystal â hyder wrth gyfleu gwybodaeth o ystod eang o bynciau a ffynonellau. Rydym yn disgwyl i'n graddedigion fod yn feirniadol ystwyth, yn feddylwyr dadansoddol, yn fedrus mewn ymchwil, gyda sgiliau datrys problemau cryf, gan gynnwys y gallu i wneud penderfyniadau gwybodus. Bydd ein rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau asesu, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau cyfathrebu drwy seminarau, yn ogystal â sgiliau rheoli prosiect a chynnal ymchwil annibynnol. Bydd yr ehangder hwn o allu ynghyd ag ystwythder deallusol yn sicrhau y gallwch gystadlu'n llwyddiannus yn y farchnad gyflogaeth p'un a ydych chi'n bwriadu parhau a/neu ymgymryd â gyrfa mewn:

  • Astudiaethau pellach (Ôl-raddedig a Addysgir), ymchwil a’r byd academaidd, gan gynnwys rhaglenni sy'n berthnasol i'r dyniaethau.
  • Hyfforddiant proffesiynol pellach
  • Sefydliadau rhyngwladol a rhanbarthol, gan gynnwys ysgolion, colegau, prifysgolion, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau ymchwil, cyrff anllywodraethol, elusennau.
  • Y sector cyhoeddus, gan gynnwys rolau yn y llywodraeth, cynghorau, mentrau cymdeithasol, cynghorau ymchwil.
  • Y sector preifat, gan gynnwys swyddi mewn ymarfer cyfreithiol, marchnata, recriwtio, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus, cyhoeddi, adnoddau dynol, cyfathrebu, rheoli prosiectau, newyddiaduraeth, golygu, ysgrifennu copi.

Bydd gennych hefyd fynediad i Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA), sy'n rhoi cynmorth cynhwysfawr ar gyfer gyrfaoedd a chyflogadwyedd drwy gydol eich amser yn y brifysgol a thu hwnt.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Anrhydedd Cyfunol

Anrhydedd Cyfunol gyda Blwyddyn Dramor

Anrhydedd Cyfunol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant