Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein rhaglen radd BA (Anrh) newydd mewn Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol fel creawdwr a chyfathrebwr cynnwys chwaraeon proffesiynol ar draws y cyfryngau cyfathrebu chwaraeon cyfoes.
Bydd y cwrs ymarferol iawn hwn yn caniatáu i chi astudio pynciau fel newyddiaduraeth chwaraeon, sylwebaeth chwaraeon, a hyrwyddo chwaraeon. Trwy astudio cysyniadau damcaniaethol fel cefnogwyr, newyddiaduraeth chwaraeon, hunaniaeth genedlaethol a naratifau chwaraeon, bydd myfyrwyr yn gweld sut mae ein diddordeb parhaus mewn chwaraeon wedi ffurfio’r ffordd rydym yn gweld y byd.
Newidiadau i’r ffordd rydym yn gwylio chwaraeon wedi amharu’n sylweddol ar y model cyfryngau traddodiadol (papurau newyddion, darllediadau teledu, radio), ac mae llawer o sefydliadau chwaraeon bellach yn dewis cyfathrebu’n uniongyrchol â chefnogwyr. Nid yw’n ddigon mwyach i wybod sut i ysgrifennu adroddiad ar gêm, neu gyfweld â’r enillydd buddugoliaethus a’r cystadleuwr a drechwyd.
Gyda hyn i gyd mewn golwg, datblygwyd y cwrs hwn i sicrhau y byddwch yn graddio fel creawdwr cynnwys chwaraeon galluog a chymwys, sy’n meddu ar sgiliau newyddiadurol, ac sy’n fedrus wrth greu a hyrwyddo cynnwys amlgyfrwng sy’n canolbwyntio ar chwaraeon, o bodlediadau i adroddiadau ar gemau ac o sylwebaeth chwaraeon i strategaethau cyfathrebu chwaraeon hyrwyddol.