Trosolwg o'r Cwrs
Gallwch ymgolli mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg gan ddysgu am hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yr iaith ar yr un pryd ar ein rhaglen BA Cymraeg (iaith gyntaf).
Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth gan gynnwys dramâu, straeon byrion a nofelau, yn ogystal â barddoniaeth o'r traddodiad barddol canoloesol i geneuon protest modern.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o iaith a gramadeg Cymraeg, ieithyddiaeth a pholisi cynllunio iaith, ac yn dysgu sgiliau cyfieithu gwerthfawr.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.