Trosolwg o'r Cwrs
Wrth astudio am ein gradd Ieithoedd Modern, gallwch astudio hyd at ddwy brif iaith (gallwch ddewis rhwng Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg), a fydd yn eich helpu i ddod yn rhan o gymuned fyd-eang ac yn agor drysau i bob math o yrfaoedd.
Yn ogystal â'ch prif fodiwlau iaith, byddwch hefyd yn dewis o blith modiwlau mewn astudiaethau diwylliannol (yn cynnwys llenyddiaeth, ffilm, barddoniaeth a mwy), addysg (dysgu ail iaith ac addysgeg yn y dosbarth cynradd ac uwchradd) a chyfieithu (i mewn ac allan o'r iaith darged, gan gynnwys cyfieithu dogfennol, cyfryngol a chyfieithu â chymorth cyfrifiadur) drwy ein llwybrau pwrpasol ac unigryw. Mae posibilrwydd hefyd i fyfyrwyr sy'n dymuno ehangu eu casgliad o ieithoedd i astudio modiwlau rhagarweiniol mewn Catalaneg, Eidaleg a Phortiwgaleg.
Gellir astudio Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg ar y lefelau canlynol ac yn y cyfuniadau canlynol:
- Gall myfyrwyr sydd â Safon Uwch mewn dwy o'r ieithoedd hyn barhau i astudio'r ddwy iaith gyda ni ar lefel uwch.
- Gall myfyrwyr sydd â Safon Uwch yn un o'r ieithoedd hyn naill ai ganolbwyntio'n llwyr ar yr iaith honno neu ddysgu iaith arall, ar yr un pryd, trwy ein llwybrau iaith pwrpasol i ddechreuwyr.
- Gall myfyrwyr nad ydynt wedi cael y cyfle i astudio iaith Safon Uwch neu TGAU ganolbwyntio ar un iaith i ddechreuwyr (gan ddewis o blith Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg) trwy gydol eu gradd. Fel arall, gallant ddysgu ail iaith i ddechreuwyr hefyd (gan ddewis o blith Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Tsieinëeg Mandarin, neu Sbaeneg) yn ystod ail flwyddyn eu gradd. Bydd hyn yn eu galluogi i raddio gyda rhuglder uwch (C1) yn eu hiaith gyntaf, a rhuglder canolradd-uwch (B2-C1) yn eu hail iaith.