Trosolwg o'r Cwrs
Gwnewch y gorau o'ch diddordeb yn y gorffennol drwy astudio Ieithoedd Modern a Hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch yn meithrin sgiliau y mae galw mawr amdanynt mewn amrywiaeth o sectorau, wrth archwilio'r cyflwr dynol dros gyfnodau hanesyddol arwyddocaol.
Mae ein rhaglen Ieithoedd Modern a Hanes yn archwilio pynciau sy'n cynnwys hanes menywod a rhywedd, yn ogystal â hanes cymdeithasol Prydain a hanes Ewrop. Byddwch hefyd yn astudio amrywiaeth gyfoethog yr iaith a ddewiswyd gennych (Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg), ar lefel sy'n cydweddu â'ch gwybodaeth bresennol, yn ogystal â modiwlau astudiaethau diwylliannol, ffilm, hanes ac addysgu iaith.
Bydd astudio'r radd hon yn eich galluogi i fanteisio ar amrywiaeth gyffrous o gyfleoedd gyrfa drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau megis cyfathrebu, ymwybyddiaeth ddiwylliannol a meddwl yn ddadansoddol, y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr.
Gellir astudio ein rhaglen dros dair blynedd, neu gallwch estyn eich astudiaethau am flwyddyn er mwyn treulio blwyddyn dramor neu flwyddyn mewn diwydiant. Bydd yr opsiynau ychwanegol hyn yn ehangu’ch profiad myfyriwr ymhellach drwy roi cyfle i chi feithrin dealltwriaeth ddiwylliannol unigryw ac achub ar gyfleoedd sy'n seiliedig ar sgiliau.