Trosolwg o'r Cwrs
Fel myfyriwr Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn dysgu am y cydberthnasau cymhleth a diddorol rhwng llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a hanes ac yn astudio'r ffordd y caiff iaith ei dadansoddi a'i dehongli mewn gwahanol gyd-destunau. Bydd y cwrs gradd BA tair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â'r ffordd rydym yn caffael iaith, sut mae iaith yn gweithio, sut mae cymdeithasau'n cyfathrebu a mwy na mil o flynyddoedd o lenyddiaeth, o Beowulf i'r presennol. Cewch gyfle i astudio llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, llenyddiaeth y Dadeni, ffuglen Gothig a phoblogaidd, llenyddiaeth y 19eg ganrif, modernrwydd a ffuglen gyfoes, rhywedd a diwylliant, ysgrifennu creadigol a phroffesiynol.
Bydd gennych opsiwn o astudio ar gyfer Tystysgrif Caergrawnt mewn Addysgu'r Iaith Saesneg i Oedolion (CELTA) yn ystod eich ail flwyddyn, a fydd yn gyfle i wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.