Addysg, BA (Anrh)

Archwilio ymarfer addysgol mewn oes ddigidol

myfrywr

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd BA mewn Addysg yn gwrs tair blynedd sy'n seiliedig ar ymchwil, sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ystod eang o yrfaoedd yn y maes addysg a thu hwnt.

Mae addysg yn faes astudio pwysig sy'n tynnu ar  ddisgyblaethau seicoleg, cymdeithaseg, athroniaeth a hanes, ac yn cynnwys ystod o bynciau gan gynnwys polisi addysg, addysgu a dysgu, lles, datblygiad plant, anghenion dysgu ychwanegol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ac addysg ddigidol.

Fel myfyriwr addysg ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, a bydd gennych chi sylfaen gadarn mewn damcaniaethau a chysyniadau cyfoes sy'n cael eu llywio gan sylfaen ymchwil gryf. Byddwch chi'n graddio gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i feddwl yn feirniadol am addysg a byddwch chi'n gallu cymhwyso eich gwybodaeth mewn lleoliadau byd go iawn, mewn cyd-destunau addysg ac ar draws y byd yn ehangach.

Mae gan y darlithwyr ar y rhaglen hon ystod eang o arbenigedd a phrofiad ym maes addysg, rhai â chefndiroedd ymchwil, eraill â phrofiad fel ymarferwyr proffesiynol, ar lefel gynradd ac uwchradd, gan gynnig sylfaen wybodaeth eang i chi dynnu arni drwy gydol eich astudiaethau.

Pam Addysg yn Abertawe?

Byddwch chi'n astudio ar ein Campws Parc Singleton prydferth, mewn parcdir sy’n edrych dros Fae Abertawe wrth ymyl Penrhyn Gŵyr. Trwy gydol y rhaglen, bydd gennych chi'r cyfle i:

  • Archwilio ymarfer addysgol yn yr oes ddigidol drwy astudio technolegau dysgu digidol  sydd ar flaen y gad o ran tueddiadau addysg cyfredol
  • Dysgu am bolisi ac ymarfer addysgol hanesyddol a chyfoes
  • Darganfod gwahanol fathau o arweinyddiaeth a rheoli
  • Ennill dealltwriaeth o sut olwg sydd ar addysg mewn gwledydd gwahanol, gan archwilio'r berthynas rhwng cydraddoldeb, tegwch ac amrywiaeth ac addysg
  • Archwilio materion sy'n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol a lles
  • Astudio damcaniaethau gwahanol am ddatblygiad, dysgu ac addysgu plant

Byddwch chi'n ymuno ag adran perfformiad uchel - ar hyn o bryd mae Addysg yn Abertawe yn:

  • Un o'r 15 orau yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
  • Ymysg yr 20 adran orau yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Complete University Guide 2026)
  • Rhwng y 301-400 safle gorau yn y Byd (Shanghai Rankings (Academic Rankings of World Universities) Global Ranking of Academic Subjects 2025)

Eich Profiad Addysg

Byddwch yn cwblhau 120 o gredydau bob blwyddyn. Ar lefelau 4 a 5, mae modiwlau'n darparu gwybodaeth a sgiliau sylfaenol, a fydd yn cael eu datblygu ymhellach ar lefel 6. Ar lefel 6, byddwch yn cwblhau modiwl ymchwil gorfodol a thraethawd hir gorfodol, ac yn cael cymorth gan eich goruchwyliwr i wneud y rhain.

Mae'r rhaglen hon yn seiliedig ar ymchwil, mae ganddi ffocws ar fyfyrwyr  ac mae wedi'i hategu gan egwyddorion  dysgu, addysgu ac asesu cynhwysol. Y nod yw rhoi sylfaen gadarn i chi o ddamcaniaethau a chysyniadau sy'n berthnasol i addysg, datblygu eich sgiliau academaidd ac ymchwil, a hwyluso eich archwiliad beirniadol o faterion addysgol cyfoes.

Cewch eich cyflwyno i ystod o bynciau sy'n berthnasol i addysg gyfoes gan gynnwys tegwch ac amrywiaeth, polisi ac ymarfer, lles a thechnolegau digidol, damcaniaethau addysgu a dysgu, a'r Cwricwlwm i Gymru.

Ar draws y rhaglen, caiff addysgu ei gyflwyno drwy ystod o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, gweithdai a thiwtora personol un-i-un. Mae'r rhaglen wedi'i dylunio i annog datblygiad sgiliau a chymwyseddau gan gynnwys meddwl yn feirniadol, tystiolaeth o syniadau annibynnol, cydweithio, cyfathrebu a rheoli amser. Byddwch yn cael eich cefnogi i ddatblygu dyfnder ac ehangder eich gwybodaeth trwy ddarllen annibynnol, gweithgareddau mewn gweithdai a pharatoi a chyflwyno aseiniadau, yn ogystal â gwaith grŵp cydweithredol, cyflwyniadau a dysgu hunangyfeiriedig.

Bydd yr holl fyfyrwyr ar y rhaglen yn cael tiwtor personol, gan eich galluogi i elwa o gymorth ac arweiniad personol. Yn ogystal, mae gan holl aelodau'r tîm addysgu 'oriau swyddfa', sy’n rhoi cyfle ychwanegol i chi gael cymorth personol, lle gallwch chi drafod materion neu bryderon.

Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnwys y cyfle i ymgymryd â Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Mae'r Flwyddyn Sylfaen opsiynol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BA. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg

Mae cyflogadwyedd, gan ganolbwyntio ar gynyddu eich rhagolygon fel myfyriwr graddedig, yn rhan ganolog o'r radd, ac mae wedi'i wreiddio ar draws y rhaglen gyfan, gyda chyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd ar gael i chi ar bob lefel.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, bydd gennych chi'r cyfle i ymgymryd â modiwl cyflogadwyedd opsiynol sy'n cynnwys lleoliad gwaith, un dydd yr wythnos, sy'n gyfanswm o 70 awr. Mae ymagwedd hyblyg, sy'n caniatáu i chi drefnu eich lleoliad gwaith eich hun yn unol â'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol, neu gallwch gael cymorth i ddod o hyd i leoliadau amgen priodol. Mewn blynyddoedd diweddar, mae myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau gwaith mewn canolfannau ieuenctid, y sector gwirfoddol, yr heddlu a'r byd academaidd.

Ochr yn ochr â hyn, bydd gennych chi hefyd fynediad at gyfres o ddarlithoedd a gweithdai sy'n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd allweddol. Mae'r darlithoedd a'r gweithdai hyn yn datblygu eich sgiliau o ran ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, gwneud penderfyniadau gyrfa, rhwydweithio, gweithio mewn tîm a rheoli amser.

Mae graddedigion y rhaglen hon yn symud ymlaen i ystod o lwybrau. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (ITE) mewn addysg gynradd neu uwchradd, graddau meistr mewn addysg neu astudiaethau plentyndod, neu astudiaethau lefel ôl-raddedig eraill. Mae gyrfaoedd posib yn cynnwys rolau mewn addysg, gwaith ieuenctid, gwaith cymdeithasol, y trydydd sector, ymchwil gymdeithasol ac addysgol, awdurdodau lleol, sefydliadau dysgu cymunedol, sefydliadau'r sector cyhoeddus, rheoli'r blynyddoedd cynnar, addysg feithrin ac oedran cyn ysgol ac addysg uwch.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Addysg, BA (Anrh)

Addysg gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Addysg gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)