Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh)

Ennill profiad a hyfforddiant yn gweithio gyda phlant mewn gofod proffesiynol

myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (EYPS) yn cynnig ymagwedd gyfannol sy’n seiliedig ar ddadansoddi ac astudio beirniadol at ddeall plant o enedigaeth hyd at 8 mlwydd oed. Bydd yn datblygu eich dealltwriaeth o blentyndod cynnar fel cyfnod sylfaenol, lle mae plant yn cael eu cydnabod fel aelodau galluog, cymwys a gweithredol o gymdeithas. Mae'r rhaglen wedi'i gwreiddio mewn dulliau addysgu cynhwysol, moesegol yn seiliedig ar hawliau sy'n gwerthfawrogi galluogedd, llais a phrofiadau bywyd amrywiol plant.

Fel myfyriwr ar y radd hon, byddwch yn ymgymryd ag o leiaf 700 awr o leoliad proffesiynol mewn lleoliadau plentyndod cynnar, wedi'u strwythuro fel dau ddiwrnod yr wythnos drwy gydol y rhaglen. Mae'r lleoliadau hyn wedi'u cynllunio i ddatblygu eich cymwyseddau ymarferol, gan gyd-fynd â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys galluoedd arweinyddiaeth a rheoli.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn  llwyddiannus, byddwch yn cymhwyso â Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (EYPS), a fydd yn eich galluogi i weithio gyda phlant o enedigaeth hyd at 8 oed, ar draws ystod o gyd-destunau blynyddoedd cynnar a chymunedol, gan gynnwys Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Theori), a fydd yn cael ei integreiddio i'r rhaglen, yn unol â fframweithiau'r sector, yn amodol ar gydnabyddiaeth ffurfiol gan Ofal Cymdeithasol Cymru.

Pam Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn Abertawe?

Byddwch yn astudio ar Gampws Parc Singleton, mewn parcdir hardd ar yr arfordir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr.

Byddwch yn ymuno â rhaglen sy'n perfformio'n uchel, ac mae Astudiaethau Plentyndod Cynnar yn Abertawe ar hyn o bryd:

  • Yn y 4ydd safle yn Gyffredinol yn y DU (Complete University Guide 2026)
  • Yn y 4ydd safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn dysgu sut i gefnogi plant a chydnabod eu bod yn ganolbwynt teuluoedd, cymunedau a’r byd economaidd-gymdeithasol ehangach.

Byddwch yn astudio amrywiaeth, yr hyn sy’n unigryw am bob plentyn a sut gall gweithwyr proffesiynol ym maes plentyndod cynnar gefnogi plant mewn sefyllfaoedd anodd, megis y rhai hynny sy’n dioddef o drawma ac sydd mewn argyfwng cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae gan Astudiaethau Plentyndod Cynnar broffil uchel cynyddol bwysig yn rhyngwladol, ar lefel llywodraethau a sefydliadau rhyngwladol, lle mae hawliau, iechyd, lles a phroblemau cymdeithasol plant wedi denu llawer o sylw o ganlyniad i symudiadau byd-eang diweddar a’r argyfwng ffoaduriaid.

Eich Profiad Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar

Bydd y rhaglen yn eich cefnogi i ddysgu am y ffyrdd gorau o gefnogi plant, teuluoedd a chysylltiadau cymunedol. Ar ôl cwblhau’r rhaglen, bydd gennych statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, gan ennill profiad ymarferol, gwybodaeth ddamcaniaethol a gwybodaeth sy'n seiliedig ar bolisi, a'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n ofynnol ar gyfer ymarfer blynyddoedd cynnar effeithiol.

Wrth wraidd y radd ceir cydnabyddiaeth o’r dehongliad cymdeithasol o blentyndod, dealltwriaeth nad yw hyn yn brofiad cyffredinol, ond yn un sydd wedi'i lunio gan rymoedd diwylliannol, hanesyddol a gwleidyddol. Mae'r rhaglen yn mabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau plant, gan drin plant fel cyfranogwyr gweithredol mewn cymdeithas, y mae'n rhaid parchu, cynrychioli a deall eu hunaniaethau, eu profiadau a'u lleisiau yn eu cyd-destunau unigryw.

Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro fel a ganlyn: 2 ddiwrnod yr wythnos ar leoliad, 2 ddiwrnod yr wythnos ar y campws ar gyfer dysgu ac addysgu, ac 1 diwrnod yr wythnos ar gyfer gwaith annibynnol. Mae'r dull hwn yn eich galluogi i ddod yn ddysgwr annibynnol sy'n gallu gweithio'n annibynnol ac ar y cyd ag eraill. Ar lefel 6, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil ac yn cwblhau traethawd hir, gyda chefnogaeth goruchwyliwr, gan wella eich sgiliau ymchwil a chryfhau eich dysgu.

Mae’r lleoliad yn elfen graidd a pharhaus, sy'n sylfaenol i ddatblygu cymwyseddau proffesiynol, ac mae'n hanfodol i fodloni gofynion statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, fel y'u cydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Bydd cyfle i chi ymgymryd â lleoliadau mewn sefydliadau fel canolfannau Dechrau'n Deg, ysgolion cynradd, meithrinfeydd preifat a lleoliadau gofal plant eraill i wella'ch profiad a'ch rhagolygon gyrfa.

Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnwys cyfle i chi i astudio dramor am flwyddyn, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, gan roi i chi’r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen at Flwyddyn 1 eich gradd BA.

Cyfleoedd Cyflogaeth Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar

Mae cyflogadwyedd yn elfen hanfodol o raglen y BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar, ac mae wedi'i hymgorffori ym mhob lefel astudio.

Yn ystod y lleoliad, cewch eich annog i gymryd rhan mewn cyfarfodydd staff, diwrnodau hyfforddiant mewn swydd a gweithgareddau sefydlu a fydd yn cyflwyno i chi lwybrau gyrfa amrywiol, gan gynnwys gwarchod plant. Bydd cyfle gennych i archwilio llwybrau i hunangyflogaeth a menter, gan gynnwys sefydlu darpariaeth gofal plant.

Yn ogystal, byddwch yn cofnodi eich gweithgarwch datblygiad proffesiynol parhaus, ymarfer sy'n seiliedig ar ymchwil a sgiliau sy'n berthnasol i'r sector. Mae'r portffolio hwn yn dystiolaeth o'ch cyflogadwyedd a'ch parodrwydd ar gyfer cydnabyddiaeth fel Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Mae'r prosiect ymchwil annibynnol/traethawd hir ar ddiwedd eich gradd yn eich cefnogi i ddatblygu sgiliau allweddol gan gynnwys meddwl yn feirniadol, rheoli amser, trefnu a dysgu hunangyfeiriedig.

Mae'r rhaglen yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn Abertawe i ymgorffori sgiliau astudio sy'n gwella perfformiad academaidd a chyflogadwyedd. Byddwch yn cael eich cefnogi i archwilio bwrsariaethau, cyllid ac adnoddau datblygu gyrfa, gydag arweiniad ar gael gan Dimau Gyrfaoedd a Menter y Brifysgol.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn ennill cymhwyster Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, fel y'i cydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r statws proffesiynol hwn yn cadarnhau eich parodrwydd i weithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar rheoleiddiedig, ac yn cefnogi eich dilyniant i rolau arweinyddiaeth. Fel rhan o aelodaeth ac ymrwymiad i’r Rhwydwaith Gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar a meincnodau ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer astudiaethau plentyndod cynnar, bydd graddedigion yn gallu gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Ar ôl graddio o’r rhaglen hon, gallwch symud ymlaen i amrywiaeth o rolau, gan gynnwys:

  • Addysgu a Phedagogeg y Blynyddoedd Cynnar (e.e. meithrinfeydd)
  • Gwaith Cymorth i Deuluoedd a’r Gymuned (e.e. gwasanaethau plant integredig, rhaglenni magu plant neu rolau allgymorth)
  • Swyddi Cynorthwy-ydd Addysgu mewn lleoliadau cynradd a blynyddoedd cynnar
  • Gwarchod Plant ac Entrepreneuriaeth Blynyddoedd Cynnar, gan gynnwys hunangyflogaeth a darpariaeth gymunedol
  • Dilyniant Arweinyddiaeth a Rheolaeth i fframwaith ymarfer L5.

Llwybr dilyniant sy'n cael ei ffafrio gan lawer o raddedigion yw'r cwrs TAR Cynradd, sy'n caniatáu mynediad i Addysg Gychwynnol Athrawon a Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae graddedigion eraill yn dewis dilyn astudiaethau ôl-raddedig ar lefel MA, gan gynnwys ar ein:

  • MA Astudiaethau Plentyndod Cynnar
  • MA Addysg
  • MA Chwarae Therapiwtig a Datblygiadol

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh)

Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar gyda Blwydyyn Dramor, BA (Anrh)