Trosolwg o'r Cwrs
Mae Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol yn rhoi sylw i globaleiddio, hawliau dynol, hawliau dynol, gwleidyddiaeth ryngwladol a rhanbarthol, heddwch a gwrthdaro, economi gwleidyddol, astudiaethau diogelwch ac astudiaethau strategol. Byddwch hefyd yn astudio hanes drwy bynciau megis hanes a rhywedd menywod, atgofion rhyfel a gwrthdaro, a hanes cymdeithasol Prydain.
Mae astudio’r cwrs gradd dair-blynedd hon yn agor y drws ar ystod eang o gyfleoedd gyrfa cyffrous gan eich helpu i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr iawn i gyflogwyr.
Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe yn y safle canlynol:
- Ymysg y 15 cwrs gorau o’i fath yn y DU (Guardian University Guide 2025)
- 92% o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu'n astudio, neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill, megis teithio, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA 2023)