Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd Cydanrhydedd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ddomestig (gan gynnwys astudio damcaniaeth wleidyddol, taleithiau, etholiadau a seneddau) yn ogystal â gwleidyddiaeth rhwng gwledydd (gyda ffocws ar ddamcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, astudiaethau diogelwch a gwrthdaro). Mae'r radd hon yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu arbenigedd yn y ddau faes ac archwilio pynciau (megis gwleidyddiaeth amgylcheddol, economi wleidyddol fyd-eang a datblygu rhyngwladol) lle byddant yn croesdorri.
Cynlluniwyd y cwrs i roi sylfaen gref i fyfyrwyr mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau cyhoeddus yn y flwyddyn gyntaf, cyn rhoi cyfle i arbenigo'n fwy ac yn ogystal â chynyddu ffocws ar y croestoriad domestig/rhyngwladol yn yr ail flwyddyn a gweithio tuag at y flwyddyn olaf lle bydd mwy o bwyslais ar ddysgu hunan-gyfeiriedig, gan roi hyblygrwydd i fyfyrwyr ddewis pynciau a meysydd maent yn dymuno canolbwyntio arnynt. Yn y flwyddyn olaf, bydd gennych chi'r cyfle i wneud interniaeth gyda'r modiwl Astudiaethau Senedd Cymru a Senedd Prydain, sy'n cael ei addysgu'n rhannol gan staff arbenigol o Ddau Dŷ’r Senedd
Mae myfyrwyr y cwrs hwn fel arfer yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifennu gwych, a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno'ch syniadau mewn ystod o ffyrdd, yn ogystal â sgiliau ymchwil, dadansoddi a datrys problemau cryf.
Mae ein graddedigion yn wirioneddol ryngwladol ac maent mewn swyddi ledled y byd.
Mae ganddynt yrfaoedd yn y meysydd canlynol:
- Llywodraeth a gwleidyddiaeth
- Addysg
- Sefydliadau eraill
- Busnes
- Y Cyfryngau, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
- Y Gyfraith
- Y Gwasanaethau Cyhoeddus