Trosolwg o'r Cwrs
Gall ein gradd BA (Anrh.) Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen agor drws i ystod o bosibiliadau gyrfaol drwy eich helpu i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.
Mae'r radd ei hun yn cynnwys archwilio gwleidyddiaeth Brydeinig ac Ewropeaidd, polisi cyhoeddus, a damcaniaeth ac athroniaeth wleidyddol.
Mae gennych gyfle ar gyfer interniaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ac astudio modiwl Astudiaethau Seneddol Prydeinig, a addysgir yn rhannol gan staff arbenigol o'r Senedd.