Trosolwg o'r Cwrs
Bydd astudio gradd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn rhoi’r sylfaen ddamcaniaethol hanfodol i chi ddeall ymddygiad pobl fel bodau cymdeithasol, yn ogystal â’r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd ehangach sy’n dylanwadu ar ein cymdeithas sy’n newid yn gyson.
Bydd blwyddyn sylfaen y cwrs pedair blynedd hwn yn eich cyflwyno i'r cysyniadau allweddol a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i'r Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen. Ar ôl iddynt gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i Flwyddyn 1 y BSc.
Cyflwynir y flwyddyn sylfaen (lefel 3) gan y Coleg, Prifysgol Abertawe (TCSU). Cyflwynir blynyddoedd 2 i 4 (lefelau 4 i 6) gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Byddwch yn dysgu sut i gynhyrchu gwybodaeth newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o offer ymchwil gymdeithasol ansoddol a meintiol, o arolygon cymdeithasol mawr a ddehonglir drwy ystadegaeth i gyfweliadau manwl gydag unigolion a grwpiau bach.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio, cyfathrebu a chyflwyno ardderchog, ynghyd â'r gallu i ddadansoddi a gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol a llunio dadleuon ynghylch y materion cymdeithasol cymhleth sy'n effeithio ar bob un ohonom ni.