Trosolwg o'r Cwrs
Mae’r radd gydanrhydedd hon mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol yn cyfuno dau faes pwnc cyffrous sy’n datblygu’n gyflym, ac mae gan y ddau ohonynt ddylanwad enfawr ar fywydau pob un ohonom.
Byddwch yn ymchwilio i theorïau a thrafodaethau allweddol sy'n ymwneud â sut mae cymdeithas yn diwallu anghenion ei dinasyddion a'r ffyrdd y mae polisïau cymdeithasol yn cael eu llywio gan yr achosion ac effeithiau troseddu ar unigolion a chymunedau.
Byddwch yn archwilio themâu a gwerthoedd megis cyfiawnder troseddol, cydraddoldeb, tegwch a dinasyddiaeth, ochr yn ochr â phrif bwyntiau polisi megis troseddu, iechyd, addysg, tai, anabledd, tlodi a'r teulu, yn ogystal ag ennill dealltwriaeth gadarn o'r system cyfiawnder troseddol.
Trwy gydol eich gradd gydanrhydedd, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog a’r gallu i gyfleu eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.