Trosolwg o'r Cwrs
I wneud cais am y cwrs hwn gofynnwch am ffurflen gais trwy e-bostio chhsadmissions@swansea.ac.uk. Gweler isod am ofynion mynediad.
Rydym wedi dylunio'r Dystysgrif Addysg Uwch blwyddyn arloesol hon ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn mamolaeth neu ofal iechyd neu ar gyfer y rhai sy'n dymuno cydgrynhoi eu sgiliau presennol yn y sector hwn. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i arfogi myfyrwyr â'r offer sydd eu hangen i lwyddo ar unrhyw siwrnai a ddewisant.
Os ydych chi'n gweithio ym maes gwasanaethau mamolaeth ar hyn o bryd, mae hon yn ffordd dda o wella eich ymarfer a'ch sgiliau proffesiynol.
Os ydych chi neu os hoffech ddod yn doula hunangyflogedig, byddwch hefyd yn dysgu sgiliau datblygu busnes gwerthfawr gan gynnwys cynllunio ariannol a chofnodion, materion treth a marchnata.
Mae yna hefyd raglen BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mlwyddyn dau.
Gyda ffocws cryf ar hunanddatblygiad, hunanymwybyddiaeth a sgiliau cyfannol, byddwch yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o agweddau allweddol ar wasanaethau ffisioleg, teulu, cymdeithas, cyfathrebu, diwylliant, iechyd a gofal mamolaeth yn y DU.