Trosolwg o'r Cwrs
Mae nyrsys iechyd meddwl yn cyflawni rôl hanfodol yn y gwaith o roi cymorth i bobl o bob oed a chefndir ar rai o'r adegau anoddaf a mwyaf heriol yn eu bywydau.
Bydd ein cwrs gradd tair blynedd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn rhoi'r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol sydd ei hangen arnoch i ddarparu gofal nyrsio tosturiol o safon uchel i bobl sy'n delio â salwch meddwl, yn ogystal â rhoi cymorth i'w teuluoedd.
Byddwch yn meithrin sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu er mwyn eich paratoi i weithio fel rhan o dîm sy'n cynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymunedol, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion.
Bydd hanner y cwrs yn cael ei addysgu yn y brifysgol ar gampws Parc Singleton a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym gysylltiadau ardderchog â byrddau iechyd yng Nghymru a llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang o brofiadau clinigol ledled de-orllewin Cymru.
Gallai'r rhain gynnwys canolfannau gofal iechyd cymunedol, ysbytai dydd ac adrannau cleifion allanol, neu unedau arbenigol.