Nyrsio (Oedolion), BSc Ran-amser (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
nursingswansea

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein gradd Nyrsio Oedolion, sydd wedi’i chydnabod yn rhyngwladol, yn rhoi’r sgiliau a’r profiad i chi i ddechrau gyrfa werth chweil yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.

Gellir cyflwyno'r amrywiad rhan-amser hwn o'n rhaglen Nyrsio Oedolion naill ai ar ein Campws Parc Singleton, Abertawe neu ar ein Campws Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, lle byddwch yn astudio am 3 diwrnod yr wythnos. Mae wedi'i anelu at Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd presennol a bydd yn rhoi'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch chi i lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.

Dros gyfnod y rhaglen hon sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) a'i chomisiynu gan Addysg a Gwella Iechyd (AaGIC), byddwch yn dysgu am anghenion cyfannol pobl, o fod yn oedolion cynnar hyd at henoed.

Wrth i chi ddatblygu, byddwch yn meithrin y sgiliau i asesu, cynllunio, darparu, a gwerthuso gofal ar sail tystiolaeth er mwyn hyrwyddo iechyd a lles oedolion gyda chyflyrau cronig ac acíwt.

Wedi'i seilio ar athroniaeth gofal sy'n canolbwyntio ar y person, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cael ei yrru gan werthoedd, mae'r rhaglen yn pwysleisio tosturi, cynhwysiant, a phartneriaeth â phobl, teuluoedd, a chymunedau.

Ein nod yw datblygu ymarferwyr myfyriol ac atebol a all ymateb i anghenion iechyd cymhleth a newidiol cymdeithas a chyfrannu at wella canlyniadau iechyd yng Nghymru, y DU, ac yn rhyngwladol.

Mae tua hanner eich addysgu yn cynnwys dysgu yn y Brifysgol, a'r hanner arall ar ffurf lleoliadau gwaith gofal iechyd. Mae gennym berthnasoedd rhagorol â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gennych fynediad at ystod eang o leoliadau gwaith ledled de-orllewin Cymru, a gynhelir yn y GIG a'r sector annibynnol, mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.

Pam astudio Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gennym enw rhagorol am nyrsio, ac ar hyn o bryd rydym wedi ein rhestru:

  • 3ydd yn y DU am Ragolygon Gyrfa (aseswyd o dan 'y Gwyddorau Biofeddygol', Guardian University Guide 2026)
  • 4ydd safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
  • 6ed yn y Deyrnas Unedig o ran Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide, 2026)
  • 7fed yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2026)

Mae ein staff academaidd i gyd yn nyrsys, yn feddygon ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cymwysedig, y mae llawer ohonynt hefyd yn glinigwyr wrth eu gwaith, sy’n rhoi i chi gyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, dealltwriaeth broffesiynol, ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym gysylltiadau cryf â byrddau iechyd Cymru, gan gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith clinigol i chi mewn amrywiaeth o leoliadau trefol a gwledig. Yn y cyfamser, mae'r ysbyty agosaf yn rhannu ffin â'n Campws Singleton.

Os ydych yn fyfyriwr o’r DU a gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallai eich ffïoedd dysgu gael eu talu’n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, a gallech gael cyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

Ewch i dudalen we Cyllid y GIG i wirio a ydych yn gymwys i gael cyllid cyn cyflwyno cais.

Eich profiad ym maes Nyrsio Oedolion

Mae ein rhaglen nyrsio wedi'i chynllunio'n bwrpasol i ddatblygu nyrsys diogel, effeithiol a thosturiol sy'n barod ar gyfer realiti amgylcheddau gofal iechyd modern, amlddisgyblaethol.

Bydd gennych fynediad at gyfleusterau rhagorol, gan gynnwys ystafell glinigol realistig i chi roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl, yr amodau go iawn y byddwch chi’n cael profiad ohonynt ar leoliad mewn ysbyty neu leoliad cymunedol.

Mae myfyrwyr nyrsio hefyd yn elwa o gael mynediad at SUSIM ar ein campysau yn Abertawe a Chaerfyrddin; Y gosodiad mwyaf o dechnoleg wal ymdrochol yn y byd. Mae'r cyfleuster unigryw hwn yn golygu bod gennych chi y gallu i ymarfer sgiliau allweddol a gwaith tîm mewn amrywiaeth o senarios bywyd go iawn efelychiedig.

Gyrfa Nyrsio

Mae'r rhaglen hon yn cynnig sylfaen gref ar gyfer gyrfa gydol oes mewn nyrsio, boed mewn gofal cleifion uniongyrchol, rolau clinigol uwch, arweinyddiaeth, addysg neu ymchwil. Mae graddedigion yn hynod gyflogadwy, gyda chyfleoedd i weithio'n lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol.

Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i wneud cais am statws Nyrs (oedolion) Gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), ac i gofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE a’r AEE.

Bydd myfyrwyr y DU hefyd yn gallu cael mynediad at gyllid y GIG i dalu cost hyfforddiant. Bydd angen i'r rhai hynny sy'n cael y fwrsariaeth ymrwymo i weithio yng Nghymru yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol cyhoeddus/preifat/annibynnol am hyd at ddwy flynedd ar ôl cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP), mewn cytundeb â byrddau iechyd GIG Cymru a phrifysgolion ledled Cymru, wedi datblygu ac yn rheoli proses baru o dan y Cynllun Symleiddio Myfyrwyr. Ar ddiwedd eich rhaglen, byddwch yn gallu gwneud cais am swyddi gwag ledled Cymru drwy'r cynllun.

You can expect a starting salary of £28,407 rising to £57,349 for a highly experienced staff nurse. Specialist nurses and practice managers can earn £50,056.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Nyrsio (Oedolion), BSc Ran-amser (Anrh)