Nyrsio (Plant), BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
childnursing

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd Nyrsio (Plant) BSc (Anrh) yn radd amser llawn dros gyfnod o 3 blynedd, sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac wedi'i chomisiynu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae wedi'i chynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer cofrestriad fel nyrs plant broffesiynol yn un o'r pedwar maes ymarfer nyrsio. 

 Wedi'i seilio ar athroniaeth gofal sy'n canolbwyntio ar y person, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cael ei hysgogi gan werthoedd, mae'r rhaglen yn rhoi pwyslais ar dosturi, cynwysoldeb, a phartneriaeth â phobl, teuluoedd a chymunedau. Ein nod yw datblygu ymarferwyr myfyriol ac atebol a all ymateb i anghenion iechyd cymhleth a newidiol cymdeithas a chyfrannu at wella canlyniadau iechyd yng Nghymru, y DU, ac yn rhyngwladol. 

 Drwy gydol y radd hon, byddwch yn dysgu am anghenion iechyd a lles cyfannol plant, pobl ifanc, a'u teuluoedd. 

 Drwy gyfuniad o astudio academaidd a phrofiad clinigol ymarferol, byddwch yn datblygu'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i ddarparu gofal nyrsio plant a mesurau diogelu iechyd o ansawdd uchel ar sail tystiolaeth mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol a chymunedol. Byddwch yn aml yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. 

 Caiff hanner y rhaglen ei addysgu yn y Brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Diolch i'n partneriaethau cryf â darparwyr gofal iechyd ar draws de-orllewin Cymru, bydd gennych fynediad at amrywiaeth eang o amgylcheddau dysgu clinigol. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau gwaith yn y GIG a'r sector annibynnol, mewn ysbytai ac yn y gymuned. 

 Caiff myfyrwyr eu cefnogi i gyflawni Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018), gyda deilliannau'r rhaglen wedi'u mapio yn unol â phedwar piler ymarfer nyrsio: ymarfer clinigol, arweinyddiaeth, addysg ac ymchwil. Erbyn i chi raddio, bydd gennych chi'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd proffesiynol i ddarparu gofal diogel, effeithiol a chyfannol, eirioli dros ddefnyddwyr gwasanaethau, a gweithio'n gydweithredol mewn timau amlbroffesiwn. 

Pam Nyrsio Plant ym Mhrifysgol Abertawe?

Yn ystod eich amser dysgu yn y Brifysgol, byddwch yn astudio ar ein campws Parc Singleton, mewn parcdir hardd sy'n edrych dros Fae Abertawe wrth ymyl penrhyn Gŵyr. Mae gennym enw rhagorol am nyrsio, ac ar hyn o bryd rydym yn:  

  • 3ydd yn y DU am Ragolygon Gyrfa (aseswyd o dan Nyrsio Cyffredinol, Guardian University Guide 2026)  
  • 4ydd yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)  
  • 6ed yn y DU o ran Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide 2026)  
  • 7fed yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2026) 

Mae ein staff academaidd i gyd yn nyrsys, yn feddygon ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cymwysedig, ac mae llawer ohonynt hefyd yn glinigwyr wrth eu gwaith, gan sicrhau y gallwn ni ddarparu cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, dealltwriaeth broffesiynol, ac arbenigedd ymarferol.  

Mae gennym gysylltiadau cryf â byrddau iechyd Cymru, gan gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith clinigol i chi mewn amrywiaeth o leoliadau trefol a gwledig. Yn y cyfamser, mae'r ysbyty agosaf yn rhannu ffin â'n Campws Singleton.  

Os ydych yn fyfyriwr o’r DU a gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallai eich ffïoedd dysgu gael eu talu’n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, a gallech gael cyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.  

Ewch i dudalen we Cyllid y GIG i wirio a ydych yn gymwys i gael cyllid cyn cyflwyno cais. 

Eich Profiad ym maes Nyrsio Plant

Mae ein rhaglen nyrsio wedi'i chynllunio'n bwrpasol i ddatblygu nyrsys diogel, effeithiol a thosturiol sy'n barod ar gyfer realiti amgylcheddau gofal iechyd modern, amlddisgyblaethol. 

Bydd gennych fynediad at ein cyfleusterau arbennig, gan gynnwys ystafell glinigol realistig yn ein Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol (SUSIM) o’r radd flaenaf. Mae'r cyfleuster unigryw hwn yn golygu bod gennych chi'r gallu i ymarfer sgiliau allweddol a gwaith tîm mewn amrywiaeth o senarios bywyd go iawn wedi'i hefelychu. 

Mae'r rhaglen yn cynnwys 4,725 awr o ddysgu, wedi'i gydbwyso'n gyfartal rhwng dysgu damcaniaethol ac ymarfer. Mae agweddau allweddol ar nyrsio gan gynnwys ymchwil, arweinyddiaeth, llythrennedd digidol, y gyfraith, diogelu, cydsyniad, ffarmacoleg, gweinyddu ac optimeiddio meddyginiaethau, ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth wedi'u hintegreiddio ym mhob modiwl.  

Dyma gwrs amser llawn sy'n cynnwys naw modiwl dilyniannol 40 credyd, gyda thri ohonynt yn cael eu cwblhau ym mhob blwyddyn astudio. Mae dulliau dysgu ac addysgu wedi'u cynllunio i hwyluso dysgu annibynnol, ac i wneud defnydd o'ch sgiliau astudio presennol, eich gwybodaeth flaenorol a'ch profiadau. Mae'r holl fodiwlau yn cynnwys sesiynau a addysgir, ymarfer, astudio'n annibynnol ac e-ddysgu.  

Gyrfaoedd Nyrsio Plant

Mae'r rhaglen hon yn cynnig sylfaen gref ar gyfer gyrfa gydol oes mewn nyrsio, boed mewn gofal cleifion uniongyrchol, rolau clinigol uwch, arweinyddiaeth, addysg neu ymchwil. Mae graddedigion yn hynod gyflogadwy, gyda chyfleoedd i weithio'n lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol.  

Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am statws Nyrs (Plant) Gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), ac i gofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE a’r AEE.  

Bydd myfyrwyr o'r DU hefyd yn gallu cael mynediad at gyllid y GIG i dalu cost hyfforddiant. Bydd angen i’r rhai hynny sy'n cael y fwrsariaeth ymrwymo i weithio yng Nghymru yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol cyhoeddus/preifat/annibynnol am hyd at ddwy flynedd yn dilyn cofrestru gyda'r NMC.  

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, mewn cytundeb â byrddau iechyd GIG Cymru a phrifysgolion ledled Cymru, wedi datblygu ac yn rheoli proses baru o dan y Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr. Ar ddiwedd eich rhaglen, byddwch yn gallu cyflwyno cais am swyddi gwag ledled Cymru drwy'r cynllun. Gallwch ddisgwyl ennill cyflog cychwynnol o £28,407, a fydd yn codi i £57,349 i nyrs staff brofiadol. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr ymarfer ennill £50,056. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Nyrsio (Plant), BSc (Anrh)