Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd Technoleg Ddigidol hon yn cynnwys creu a defnyddio data a systemau digidol, a'u heffaith ar gymdeithasau ledled y byd. Bydd ei chwmpas eang yn eich galluogi i feithrin eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r byd digidol, a sut gellir creu a defnyddio technolegau digidol yn greadigol, yn gynhyrchiol ac yn ddiogel. Mae'r ffocws ar gymhwyso, dealltwriaeth a gwerthuso technolegau yn feirniadol.
Drwy gydol y rhaglen sy'n para tair blynedd, byddwch yn dod ar draws pynciau a fydd yn ehangu eich gwerthfawrogiad o effeithiau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol Technoleg Ddigidol. Byddwch yn gallu defnyddio set o offer safonol y diwydiant i gynllunio, datblygu a chreu cynhyrchion digidol yn amrywio o ymgyrchoedd marchnata i gemau cyfrifiadur.
Erbyn diwedd y radd, byddwch yn fedrus yn ddigidol ac yn meddu ar y sgiliau yn barod i ddechrau mewn nifer sylweddol o rolau digidol gwahanol ar draws amrywiaeth eang o ddiwydiannau a gwasanaethau cyhoeddus. Hefyd, byddwch yn elwa o sgiliau trosglwyddadwy sylweddol mewn ymchwil, cyfathrebu ac ymgysylltu.