Biocemeg Feddygol, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Sylfaen Meddygaeth Fodern

Students in lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae biocemeg feddygol wrth wraidd meddygaeth fodern. Mae’n rhan hanfodol o’n dealltwriaeth o achosion ac effeithiau clefydau a’r ffordd rydym yn datblygu triniaethau newydd.

Byddwch yn dysgu am y prosesau cemegol sy’n digwydd o fewn organeddau byw ac yn astudio sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau is-gellog a moleciwlaidd.

Byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth fiocemegol organeddau byw, yn enwedig anifeiliaid a bodau dynol.

Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Pam Biocemeg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer biodadansoddol megis HPLC, cromatograffi nwy, sbectrometreg màs, offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog.

Mae’r radd hon yn rhan o’r rhaglen Llwybr i Feddygaeth ‘Gwyddorau Meddygol mewn Ymarfer’. Cyn belled â’ch bod yn bodloni’r gofynion mynediad, ac wedi dilyn y Llwybr hwn, gallwn eich gwarantu y cewch gyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh Meddygaeth i Raddedigion.

Eich profiad ym maes Biocemeg Feddygol

Gan astudio'r BSc 3 blynedd, byddwch yn ymgymryd â chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r hyblygrwydd i chi deilwra'ch gradd i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau gyrfa, neu gynlluniau ar gyfer astudiaeth bellach.

Yn ogystal, mae'r rhaglen 4 blynedd gyda blwyddyn Lleoliad yn cynnig blwyddyn leoliad ychwanegol rhwng yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, gan roi'r cyfle i chi gael profiad o waith mewn diwydiant, a'ch galluogi i fagu hyder a chael profiad yn y byd go iawn.

Mae ein gradd MSci 4 blynedd yn radd israddedig uwch a chanddi flwyddyn meistr integredig. Treulir y flwyddyn ychwanegol yn ymgymryd â phrosiect ymchwil, gan ganiatáu i chi ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth.

Pa bynnag gymhwyster a ddewiswch, byddwch yn elwa ar arbenigedd ein staff academaidd sy'n weithgar mewn ystod amrywiol o feysydd ymchwil biolegol moleciwlaidd, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac arfer sydd ar flaen y gad.

Mae treulio blwyddyn dramor yn ystod eich gradd israddedig yn eich caniatáu i ychwanegu profiad rhyngwladol gwerthfawr i'ch CV, wrth feithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol a fydd yn gwella eich gallu i ryngweithio â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Os wyt ti'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried ein BSc Biocemeg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen. Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, archwilio'r gwyddoniaeth sy'n sail i Fiocemeg Feddygol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.

Cyfleoedd Cyflogaeth Biocemeg Feddygol

Mae gradd mewn Biocemeg Feddygol yn fan cychwyn cyfleoedd gyrfa cyffrous mewn meysydd amrywiol megis:

  • Meddygaeth a phroffesiynau iechyd eraill
  • Datblygu cynnych fferyllol
  • Diagnosteg
  • Biowybodeg
  • Gwyddorau milfeddygol 

Mae’r radd hefyd yn darparu sylfaen ddelfrydol ar gyfer astudiaethau pellach i ddod yn feddyg, ac mae llawer o’n myfyrwyr wedi symud ymlaen i astudio Meddygaeth i Raddedigion yn Abertawe. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Biocemeg Feddygol

Biocemeg Feddygol

Biocemeg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen

Biocemeg Feddygol gyda Blwyddyn ar Leoliad

Biocemeg Feddygol gyda Blwyddyn Dramor

Biocemeg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor