Fferylliaeth, MPharm (Hons)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Pharmacy

Trosolwg o'r Cwrs

Caiff gofal iechyd modern ei ddarparu gan dîm rhyngddisgyblaethol ac yn gynyddol mae fferyllwyr yn darparu gwasanaethau clinigol gwell a newydd ar draws lleoliadau gofal iechyd. Mae ein Gradd Fferylliaeth yn cydnabod y rolau newydd ac uwch hyn ac yn integreiddio’r gwyddorau ac ymarfer i baratoi myfyrwyr i gwrdd â heriau newidiol Fferylliaeth. 

Yn ystod eich Gradd Meistr integredig pedair blynedd (MPharm) mewn Fferylliaeth, byddwch yn dilyn cwricwlwm sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu'r ffordd y mae fferyllwyr yn mynd at gleifion a sut mae cleifion yn cyflwyno i fferyllwyr. Rydym yn cyfuno egwyddorion gwyddonol sylfaenol a chymhleth gyda sut maent yn cael eu cymhwyso i roi dealltwriaeth glir i chi o ymarfer Fferylliaeth.

Ynghyd â ffocws cryf ar sgiliau clinigol a chyfathrebu a thechnoleg ddigidol, byddwch yn datblygu'r rhinweddau academaidd, ymarferol a phersonol i ymarfer fferylliaeth yn gymwys a gyda hyder.

Pam Astudio Fferylliaeth yn Abertawe?

  • 8fed yn y DU (Fferylliaeth a Ffarmacoleg, Guardian University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU am Ymchwil (Complete University Guide 2026)

Mae Fferylliaeth yn Abertawe yn adeiladu ar gryfderau'r Ysgol Feddygaeth trwy fabwysiadu agwedd amlddisgyblaethol. Rydym yn cydnabod bod fferyllwyr yn cydweithio gydag amryw o weithwyr proffesiynnol iechyd mewn lleoliadau clinigol, ac felly dylai'r addysg a'r hyfforddiant adlewyrchu hynny. Byddwch yn elwa o'n profiad a'n harbenigedd mewn gwyddoniaeth glinigol a gwyddor bywyd, ymchwil, hyfforddiant ac ymarfer, gan eich helpu i ddatblygu eich ymarfer fferyllol, gwyddonol a'ch gwybodaeth. 

Y cryfderau hyn a'r gydnabyddiaeth o'r angen am drylwyredd a dealltwriaeth wyddonol, ynghyd â ffocws cryf ar ofal a chanlyniadau cleifion, sy'n caniatáu i'r Ysgol Feddygaeth ddatblygu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion cyflogwyr a chleifion fel ei gilydd.

Eich Profiad Fferylliaeth yn Abertawe

Trwy gydol eich cwrs bydd gennych lefel uchel o gyswllt clinigol strwythuredig, darlithoedd ac addysgu mewn labordy. Rydym yn addysgu ar draws 7 thema fras: 

  1. Fferylliaeth
  2. Cemeg Fferyllol
  3. Ffarmacoleg a Therapiwteg 
  4. Biowyddoniaeth Gellog a Moleciwlaidd
  5. Bioleg Ddynol
  6. Fferylliaeth Glinigol
  7. Ymarfer Fferylliaeth

Cyd-blethir y themau yma i adlewyrchu sut mae egwyddorion gwyddonol yn integreiddio â gofal fferyllol modern, tra bod elfenau o ymarfer rhagnodol yn ffurfio sylfaen pob blwyddyn o’r cwrs.

Cyfleoedd Cyflogaeth mewn Fferylliaeth

Fel fferyllydd, bydd yna amrywiaeth o swyddi gofal iechyd ar gael i chi fel aelod gwerthfawr o'r tîm clinigol, yn amrywio o bractis clinigol o fewn ysbytai, fferyllfeydd cymunedol a meddygfeydd, i fferylliaeth ddiwydiannol a’r byd academaidd.

Mae'r cyflog cychwynnol ar gyfer fferyllwyr newydd gymhwyso a gyflogir gan y GIG yn fwy na £35,000 a gall hwn godi i £43,000-£60,000 ar ôl 10 mlynedd. Mae'r cyflog cychwynnol ar gyfer fferyllwyr newydd gymhwyso mewn fferylliaeth gymunedol yn gallu bod mor uchel â £50,000.

Mae rhagor o wybodaeth am lwybrau gyrfa ar gyfer Fferyllwyr ar gael gan y Gymdeithas Fferylliaeth Frenhinol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein graddau Fferylliaeth trwy fynd i'n Hysbysiad Hwylus.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Fferylliaeth, MPharm (Anrh)