Trosolwg o'r Cwrs
Mae geneteg feddygol yn rhan o faes eang o'r gwyddorau biomoleciwlaidd modern, sy'n cwmpasu ystod o bynciau. Mae'r maes ar y cyfan yn meithrin ystod eang o raddedigion sy'n mynd ymlaen i ystod o yrfaoedd, gan gynnwys gwaith mewn labordy ymchwil academaidd neu ddiwydiannol, gwerthu cynnyrch fferyllol, cyfraith patentau, ysgrifennu meddygol, ymgynghoriaeth, neu ddilyn hyfforddiant ychwanegol, ymarfer meddygol.
Bydd ein BSc (Anrh.)/MSci (Anrh.) Geneteg Feddygol yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi o'r blociau adeiladu hanfodol hyn o fywyd. Byddwch yn dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiant genynnau, rhyngweithiadau protein, strwythur DNA a difrod iddo, dadansoddi delweddau o fiomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddi cyfrifiadurol uwch.
Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn datblygu sgiliau rhagorol o ran rheoli prosiectau a dadansoddi ac yn dysgu sut i ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith. Byddwch yn astudio cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r hyblygrwydd i chi deilwra eich gradd i'ch diddordebau, eich uchelgeisiau o ran gyrfa neu eich cynlluniau ar gyfer astudiaethau pellach.
Mae'r radd hon yn rhan o'n rhaglen Llwybrau i Feddygaeth 'Gwyddorau Meddygol Ar Waith'. Bydd myfyrwyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad ac yn cwblhau'r Llwybr yn sicr o gael cyfweliad ar gyfer cwrs MBBCh blaenllaw'r Ysgol Feddygaeth (Mynediad i Raddedigion).