Trosolwg o'r Cwrs
Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, BSc (Anrh) – Cod UCAS B100
Gwyddorau Meddygol Cymhwysol Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh) – Cod UCAS B10P
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd Gwyddorau Meddygol Cymhwysol gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh) - Cod UCAS B146
Gallwch ennill sylfaen drwyadl yn y gwyddorau sy’n tanategu meddygaeth fodern gyda yn y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol.
Byddwch yn astudio amrywiaeth gynhwysfawr o bynciau sy’n cynnwys anatomi a ffisioleg ddynol, bioleg celloedd, geneteg, ffarmacoleg a niwrowyddoniaeth, ynghyd â’u perthnasedd clinigol a chymhwysol.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o sut mae’r corff dynol yn gweithio, beth sy’n digwydd pan fydd yn mynd o’i le, sut yr ydym yn trin anhwylderau ar hyn o bryd, a’r potensial ar gyfer therapiwteg newydd.
Mae yn Gwyddorau Meddygol Cymhwysol darparu sylfaen gynhwysfawr sy’n berthnasol ar gyfer gyrfa mewn ymchwil labordy, meddygaeth a menter fasnachol yn y gwyddorau bywyd. Mae gennym ddewis o 3 llwybr Cyflogadwyedd yn eich ail flwyddyn (yn amodol ar gymhwysedd): Y Gwyddorau Meddygol mewn Ymarfer, Menter ac Arloesi, ac Ymchwil Gwyddorau Meddygol.