Trosolwg o'r Cwrs
BSc Microbioleg ac Imiwnoleg: Côd UCAS B550
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd BSc Microbioleg ac Imiwnoleg gyda Blwyddyn Sylfaen Côd UCAS C55F
Microbioleg yw'r gangen o wyddoniaeth sy'n canolbwyntio ar astudio micro-organebau, gan archwilio pob math o fywyd microsgopig o facteria i ffyngau, protosoa, a hyd yn oed firysau anfyw. Ochr yn ochr â hyn, mae imiwnoleg yn astudio'r system imiwnedd a sut mae'r corff dynol yn ei amddiffyn ei hun rhag yr organebau hyn drwy nifer o wahanol lwybrau a phrosesau. Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar strwythur, swyddogaeth ac ymddygiad y micro-organebau hyn, sut maent yn rhyngweithio â'u hamgylchedd, eu gallu i achosi afiechyd dynol, a'u potensial ar gyfer cymwysiadau diwydiannol.
Bydd y rhaglen ryngddisgyblaethol hon yn dod â'r ddau faes hyn ynghyd, gan ganolbwyntio ar y modd y maent yn rhyngweithio â'i gilydd mewn ymateb i glefydau heintus at ei gilydd yn ogystal ag ystyried anhwylderau sy'n digwydd o ganlyniad i system imiwnedd sy'n camweithio. Bydd cymwysiadau diwydiannol ac ymchwil, megis datblygu cyffuriau gwrthficrobaidd newydd, ac imiwn-therapiwteg arloesol yn gwreiddio'r rhaglen mewn cymwysiadau byd go iawn.
Mae microbioleg ac imiwnoleg yn cynrychioli disgyblaethau sydd nid yn unig yn sylfaenol i'n dealltwriaeth o iechyd a chlefydau ond sydd hefyd yn hanfodol i amrywiol ddiwydiannau. Mae galw cynyddol am arbenigwyr yn y meysydd hyn, wedi'i ysgogi gan ffocws cynyddol ar ofal iechyd, biotechnoleg, fferyllol, a'r sector gwyddorau bywyd ehangach, sy'n trosi'n rhagolygon rhagorol i'n graddedigion.