Microbioleg ac Imiwnoleg, BSc (Anrh) / MSci (Anrh) / BSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Microbioleg ac imiwnoleg

Trosolwg o'r Cwrs

Microbioleg yw'r gangen o wyddoniaeth sy'n canolbwyntio ar astudio micro-organebau, gan archwilio pob ffurf ar fywyd microsgopig, o facteria i ffyngau, protosoa a hyd yn oed feirysau nad ydynt yn fyw. Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar strwythur, swyddogaeth ac ymddygiad y micro-organebau hyn, sut maen nhw'n rhyngweithio â'u hamgylchedd, eu gallu i achosi clefydau dynol a'u potensial am gymwysiadau diwydiannol.

Imiwnoleg yw'r maes gwyddonol sy'n esbonio gweithrediadau cymhleth y system imiwnedd. Mae'n cwmpasu archwilio mecanweithiau amddiffyn y corff yn erbyn gwrthrychau estron, megis micro-organebau, yn ogystal â'i rôl wrth gynnal iechyd ac atal clefydau. Agwedd allweddol ar imiwnoleg yw sut mae'r corff yn gwahaniaethu rhwng endidau ei hun ac endidau nad ydynt yn perthyn i'r corff, a'r hyn sy'n digwydd pan fo'r corff yn anghywir. Mae'r wybodaeth hon yn galluogi datblygiad therapiwtig a datblygu brechlynnau er mwyn trin amrywiaeth o anhwylderau sy'n ymwneud â’r system imiwnedd a chlefydau heintus.

Mae ein graddau rhyngddisgyblaethol yn cyfuno'r ddau faes hyn, gan ganolbwyntio ar sut maent yn rhyngweithio â'i gilydd wrth ymateb i glefydau heintus, yn ogystal ag ystyried anhwylderau a geir o ganlyniad i ddiffyg yn y system imiwnedd. Bydd gweithgareddau diwydiannol ac ymchwil, megis datblygu cyffuriau gwrthficrobaidd newydd, ac imiwno-therapiwteg arloesol yn sicrhau bod y rhaglen yn gysylltiedig ag anghenion y byd go iawn.

Yn ogystal â bod yn hanfodol i'n dealltwriaeth o iechyd a chlefydau, mae disgyblaethau microbioleg ac imiwnoleg hefyd yn rhan annatod o ddiwydiannau amrywiol. Mae galw cynyddol am arbenigwyr yn y meysydd hyn, wedi'i sbarduno gan bwyslais cynyddol ar ofal iechyd, biotechnoleg, cynhyrchion fferyllol a sector y gwyddorau bywyd yn ehangach, sy'n cynnig rhagolygon ardderchog i'n graddedigion.

Pam Microbioleg ac imiwnoleg ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae ein gradd BSc Microbioleg ac Imiwnoleg wedi'i strwythuro i ddatblygu sgiliau gweithio annibynnol a chydweithredol, yn ogystal â sylfaen gref ar gyfer meddwl yn feirniadol, dadansoddi data a datrys problemau. Mae modiwlau craidd a modiwlau sy'n benodol i bynciau yn cynnwys amrywiaeth eang o sesiynau ymarferol cyfoes a fydd yn eich galluogi i ymdrochi mewn technegau microbiolegol ac imiwnolegol mewn labordai, cynllunio arbrofol, a rhoi dulliau gwyddonol ar waith wrth ymateb i broblemau biolegol yn y byd go iawn.

Byddwch yn elwa o gael mynediad at gyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys cyfarpar bio-ddadansoddi megis cyfarpar dadansoddi DNA a phroteinau, sytometreg llif ar gyfer nodweddu celloedd, dadansoddi metaboledd celloedd mewn amser go iawn, a dadansoddwyr delwedd ar sail cyfrifiadur ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd a chellol.

Byddwch hefyd yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr sy'n gweithio ym meysydd microbioleg, imiwnoleg a biowybodeg, gan roi mynediad at enghreifftiau o ymchwil go iawn ar waith i chi.

Eich profiad Microbioleg ac imiwnoleg

Wrth astudio ar y cynllun BSc 3 blynedd, byddwch yn ymgymryd â chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r gallu i chi deilwra eich gradd i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau o ran gyrfa neu eich cynlluniau ar gyfer astudiaethau pellach. Byddwch hefyd yn mireinio eich sgiliau ymchwil annibynnol drwy ymgymryd â 'phrosiect copa’ ym maes microbioleg neu imiwnoleg. Bydd y prosiect hwn yn gyfle i chi ddangos eich holl wybodaeth a sgiliau, cyfrannu at ddarganfyddiadau gwyddonol a phrofi eich gallu i weithio fel aelodau gweithgar o'r gymuned ymchwil wyddonol.

Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnwys cyfleoedd i ymgymryd â Blwyddyn Dramor mewn lleoliadau fel UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapore, gan gyfoethogi eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae'r rhaglen hon ar gael hefyd fel MSci 4 blynedd, sef gradd israddedig uwch, gan ychwanegu blwyddyn ychwanegol sy'n canolbwyntio ar ymchwil at eich gradd. Mae ein rhaglen MSci yn arwain at gymhwyster meistr, yn ogystal â'ch gradd israddedig, gan roi i chi hyfforddiant gwyddonol gan arbenigwyr a llwybr at amrywiaeth o yrfaoedd arbenigol.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc.

Mae'r cwricwlwm a'r rhaglenni wedi'u cynllunio i alluogi myfyrwyr i feithrin y sgiliau a'r priodweddau sy'n angenrheidiol i ddod yn wyddonwyr ac yn ymchwilwyr medrus a chymwys. Bydd ein rhaglenni'n gwella eich galluoedd datrys problemau ac yn annog arloesi mewn ymchwil.

Cyfleoedd cyflogaeth microbioleg ac imiwnoleg

Mae rhagolygon gyrfa i raddedigion y rhaglen hon yn eang ac yn amrywiol, gan ymestyn ymhell y tu hwnt i'r rolau sy'n canolbwyntio ar ymchwil sydd fel arfer yn cael eu cysylltu â’r radd hon. Mae cymhwyster mewn Microbioleg ac Imiwnoleg yn darparu mynediad at ystod eang ac amrywiol o lwybrau gyrfa cyffrous ar draws nifer o feysydd, gan gynnwys:

  • Ymchwil Academaidd a Meddygol
  • Datblygu fferyllol
  • Biotechnoleg
  • Biodanwyddau
  • Addysg
  • Amaethyddiaeth
  • Biowybodeg
  • Astudiaethau pellach

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Microbioleg ac Imiwnoleg, BSc (Anrh)

Microbioleg ac Imiwnoleg, MSci (Anrh)

Microbioleg ac Imiwnoleg gyda Blwyddyn Sylfaen, MSci (Anrh)

Microbiology and Immunology with a Year Abroad, MSci (Anrh)

Microbiology and Immunology with a Placement Year, MSci (Anrh)

Microbioleg ac Imiwnoleg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Microbioleg ac Imiwnoleg gyda Blwyddyn ar Leoliad, BSc (Anrh)

Microbioleg ac Imiwnoleg gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Microbioleg ac Imiwnoleg gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Microbiology and Immunology with a Foundation Year and Placement Year, BSc