Trosolwg o'r Cwrs
Mae LLB y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn dwyn ynghyd astudio'r gyfraith gydag archwiliad manwl o wleidyddiaeth ryngwladol, diplomyddiaeth a llywodraethiant byd-eang.
Wedi'i chynllunio i'ch paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd, mae'r rhaglen wedi'i seilio ar ragoriaeth academaidd ac wedi'i llywio gan ymchwil flaenllaw. Mae'n cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i ddeall sut mae systemau cyfreithiol yn gweithredu mewn cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach, wrth archwilio'n feirniadol rôl y gyfraith wrth lunio cysylltiadau rhyngwladol a llywodraethiant trawswladol.
O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau, a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac yn cefnogi'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).
Ochr yn ochr â'r meysydd craidd hyn, byddwch yn astudio modiwlau cysylltiadau rhyngwladol sy'n archwilio pynciau fel Cysylltiadau Rhyngwladol mewn Byd sy'n Newid, a Chyfiawnder Byd-eang a Hawliau Dynol yn Oes Globaleiddio. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o sut mae'r gyfraith yn rhyngweithio â gwleidyddiaeth ryngwladol a gwneud penderfyniadau byd-eang.
Wrth i chi symud ymlaen, gallwch deilwra'ch gradd drwy ystod eang o fodiwlau dewisol yn y gyfraith a chysylltiadau rhyngwladol. Mae opsiynau yn y gyfraith yn cynnwys Hawliau Dynol, Cyfraith Feddygol, Seiberdroseddu, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu, a Masnach Ryngwladol, a gallai opsiynau cysylltiadau rhyngwladol gynnwys Diogelwch Rhyngwladol, Rhyfeloedd Cudd De'r Byd neu America a'r Bom. Mae'r hyblygrwydd hwn yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau a datblygu arbenigedd ar draws dwy ddisgyblaeth gyflenwol.