Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r LLB Cyfraith Busnes Ar Waith ym Mhrifysgol Abertawe yn rhaglen arbenigol am bedair blynedd sy'n eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ar y croestoriad rhwng y gyfraith a byd busnes, wrth hefyd roi profiad gwerthfawr i chi yn y gweithle.
Wedi'i seilio ar ymrwymiad i ragoriaeth academaidd ac wedi'i llywio gan ymchwil, mae'r rhaglen yn cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i gael dealltwriaeth fanwl o sut mae fframweithiau cyfreithiol yn gweithio mewn cyd-destunau busnes, economaidd a byd-eang ehangach. Bydd gofyn i chi ymdrin yn feirniadol ag egwyddorion cyfreithiol a'u heffaith ar weithgarwch masnachol, gan ddatblygu meddwl dadansoddol, rhesymu moesegol, a safbwynt byd-eang.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau, a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac yn cynnig sylfaen gref i'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr.
Yn nhrydedd flwyddyn eich gradd LLB, byddwch yn ymgymryd ag interniaeth â thâl gyda chyflogwr mewn lleoliad cyfreithiol. Bydd hyn yn eich galluogi i gael profiad o ymarfer cyfreithiol yn uniongyrchol, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn ddefnyddiol dros ben yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch ddatblygu arbenigedd drwy fodiwlau busnes gorfodol megis Cyfraith Cwmnïau, Cyfraith Masnach Ryngwladol a Gwerthiannau Masnachol gydag ystod eang o fodiwlau dewisol. Mae'r hyblygrwydd hwn yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau wrth feithrin proffil cyfraith busnes cryf.