Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r LLB Y Gyfraith ar Waith ym Mhrifysgol Abertawe yn radd sy'n para pedair blynedd, wedi'i chynllunio'n ofalus i fod yn rhaglen ddeallusol drylwyr ac arloesol, sydd hefyd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y gweithle.
Wedi'i seilio ar ymrwymiad i ragoriaeth academaidd ac wedi'i llywio gan ymchwil, mae'r rhaglen yn cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i gael dealltwriaeth fanwl o sut mae'r gyfraith yn gweithio yn ei chyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach. Bydd gofyn i chi ymdrin yn feirniadol ag egwyddorion cyfreithiol a'u heffaith gymdeithasol, gan ddatblygu meddwl dadansoddol, rhesymu moesegol, a safbwynt byd-eang.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau, a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sydd ei angen gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac yn cynnig sylfaen gref i'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).
Yn nhrydedd flwyddyn eich gradd LLB, byddwch yn ymgymryd ag interniaeth â thâl gyda chyflogwr mewn lleoliad cyfreithiol. Bydd hyn yn eich galluogi i gael profiad o ymarfer cyfreithiol yn uniongyrchol, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn ddefnyddiol dros ben yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch deilwra'ch gradd drwy ystod eang o fodiwlau dewisol mewn meysydd fel Hawliau Dynol, Cyfraith Feddygol, Seiberdroseddu, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Masnach y Byd. Mae'r hyblygrwydd hwn yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau wrth ddatblygu arbenigedd.