Trosolwg o'r Cwrs
Gallwch raddio â llwyth o sgiliau yn barod am yrfa pan fyddwch yn astudio ein gradd BSc Cyfrifeg a Chyllid aml-achrediad.
Byddwch yn cael y cyfle i ennill statws Cyfrifydd Siartredig gyda chyrff achredu byd-eang perthnasol - ACCA, ICAEW a'r CIMA - a byddwch hefyd yn astudio ystod eang o bynciau o Gyfrifeg Rheoli a Chyfrifeg Ariannol i Gyllid Corfforaethol.
Mae ein cwrs wedi'i gynllunio i sicrhau eich bod yn dysgu’r pynciau mwyaf perthnasol a blaengar - a fydd yn eich helpu i fod pen ac ysgwyddau uwchben ymgeiswyr eraill yn y farchnad swyddi.
Byddwch yn ennill y sgiliau cysyniadol, technegol ac ymarferol y mae eu hangen i ffynnu ym myd cyfrifyddu a chyllid heddiw; a bydd cyfle i gwblhau modiwlau sydd wedi'u cynllunio i'ch tywys drwy'r broses gyfan o sefydlu system gyfrifyddu gyfrifiadurol, dysgu am ddadansoddi data, a deall rôl Cyfrifeg a Chyllid ar gyfer cynaliadwyedd. Bydd y sgiliau a'r wybodaeth ymarferol amhrisiadwy hyn yn rhoi mantais ddifrifol i chi pan fyddwch yn graddio o Brifysgol Abertawe.