Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn chwilio am radd mewn Cyfrifyddu a Chyllid a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi? Bydd y BSc mewn Cyfrifeg gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yn siŵr o wneud hynny.
Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid, y cwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes cyfrifyddu a chyllid, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Cyfrifeg a Chyllid yn yr Ysgol Reolaeth.
Os hoffech ddilyn gyrfa yn un o'r pedwar cwmni cyfrifyddu mawr (Deloitte, EY, KPMG neu PwC), neu os ydych yn gweld eich hun yn gweithio fel rheolwr cyllid, brocer stoc neu fancwr buddsoddi, bydd y radd BSc Cyfrifeg a Chyllid yn rhoi popeth sydd ei angen arnoch i chi.
Fel arbenigwr cyfrifyddu a chyllid, byddwch yn cyflawni rôl sylfaenol yn y gwaith o redeg busnes – beth bynnag fo'i faint. Mae rheoli cyllidebau a threthi, paratoi adroddiadau ariannol a chwblhau archwiliadau i gyd yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod busnes neu sefydliad yn rhedeg mor effeithiol ac mor llwyddiannus â phosibl.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.