Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n chwilio am radd Cyllid i roi mantais gystadleuol i chi? Bydd y radd BSc Cyllid ym Mhrifysgol Abertawe yn gwneud hynny.
Mae'r radd hon yn berffaith os oes gennych ddiddordeb penodol mewn meysydd Cyllid fel bancio buddsoddi neu fasnachu ariannol.
Drwy gyfuno damcaniaeth, tystiolaeth empirig a defnydd ymarferol, byddwch yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy hanfodol, gan eich galluogi i ddadansoddi a gwerthuso'n feirniadol materion a chysyniadau ariannol y byd go iawn.
Fel arbenigwr cyllid, byddwch yn chwarae rhan sylfaenol wrth redeg busnes - mawr neu fach. Rheoli cyllidebau a threthi, adroddiadau ariannol, a chwblhau archwiliadau - mae'r rhain i gyd yn hanfodol wrth sicrhau bod busnes neu sefydliad yn gweithredu mor effeithiol a llwyddiannus â phosibl.
Mae ein cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Dadansoddwyr Ariannol Siartredig (CFA) ac mae ganddo statws Rhaglen Gysylltiedig y Brifysgol, sy'n arwydd i fyfyrwyr a chyflogwyr bod ein cwricwlwm yn cyd-fynd yn agos ag ymarfer rheoli buddsoddiadau ac mae'n ddefnyddiol i fyfyrwyr sy'n paratoi ar gyfer arholiadau'r Rhaglen CFA®.