Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn chwilio am radd mewn Cyllid a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi? Os felly, y cwrs BSc Cyllid gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yw'r radd i chi.
Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Cyllid, y cwrs BSc Cyllid gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes cyllid, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Cyllid yn yr Ysgol Reolaeth.
Os yw gyrfa fel brocer stoc, bancwr buddsoddi neu ddadansoddwr ariannol yn eich cyffroi neu os ydych yn gweld eich hun yn gweithio fel actiwari, rheolwr ariannol neu ddadansoddwr data, y cwrs gradd pedair blynedd hwn yw'r sylfaen orau ar gyfer eich dewis yrfa ariannol.
Fel arbenigwr cyllid, byddwch yn cyflawni rôl sylfaenol yn y gwaith o redeg busnes – beth bynnag fo'i faint. Mae rheoli cyllidebau a threthi, paratoi adroddiadau ariannol a chwblhau archwiliadau i gyd yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod busnes neu sefydliad yn rhedeg mor effeithiol ac mor llwyddiannus â phosibl.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.