Trosolwg o'r Cwrs
Sylwer: Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn unig.
Gall myfyrwyr o'r DU ystyried ein graddau eraill mewn Busnes a Chyllid.
Drwy'r BSc Cyllid Busnes Rhyngwladol (Gradd Atodol), y bwriad yw cynnig rhaglen hyblyg ym maes cyllid a rheoli busnes.
Fel gradd atodol sy'n para blwyddyn, mae hon yn cynnig elfennau craidd o'n graddau israddedig Busnes a Chyllid ond gydag elfennau pwrpasol wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer y rhaglen hon. Mae'r cwricwlwm yn cyfuno modiwlau busnes sy'n berthnasol i gyllid, fel rheoli prosiectau, â modiwlau sy'n canolbwyntio ar gyllid fel Cyllid Corfforaethol, a Buddsoddi Rhyngwladol: Asedau; Bondiau ac Ecwitïau. Mae'r strwythur hwn yn sicrhau bod myfyrwyr rhyngwladol yn elwa o astudio amrywiaeth gynhwysfawr o bynciau sy'n gwella eu dealltwriaeth draws-ddiwylliannol ac yn eu paratoi ar gyfer yr amgylchedd busnes byd-eang.
Mae'r radd ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol sydd â chymhwyster sy'n cyfateb i HND yn eu mamwlad, gan gynnig llwybr carlam i astudio yn y DU a symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.
Ar gyfer myfyrwyr o'r Deyrnas Unedig o gefndiroedd academaidd anhraddodiadol sy'n chwilio am lwybr i addysg uwch a modd i atgyfnerthu eu profiad a'u dysgu, rydym yn argymell y llwybr Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) sy'n rhoi mynediad uniongyrchol i ail flwyddyn neu olaf rhaglen israddedig bresennol.