Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn chwilio am radd mewn dadansoddeg busnes a fydd yn eich helpu i sefyll allan drwy feddu ar y sgiliau technegol uwch sydd eu hangen i reoli busnes ar lefel fyd-eang, genedlaethol neu leol?
Bydd astudio dadansoddeg busnes yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragori yn oes y ‘data mawr’. Os oes gennych ymroddiad i feithrin dealltwriaeth fanwl o'r byd busnes sy'n seiliedig ar ddata, o ddadansoddeg y we i reoli logisteg fyd-eang, dyma'r radd i chi.
Mae'r cwrs gradd BSc Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yn rhaglen sefydledig yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae'n enwog am greu rheolwyr busnes hynod fedrus sy'n meddwl yn fasnachol. Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i weithio i rai o'r cwmnïau mwyaf yn y byd, gan gynnwys Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg a Tata.
Yn ogystal ag arbenigo mewn dadansoddeg busnes, mae'r cwrs Rheoli Busnes hwn wedi'i gynllunio i feithrin arbenigedd modern hanfodol mewn marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifyddu, strategaeth ac adnoddau dynol.