Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n chwilio am radd unigryw mewn busnes sy'n cynnwys ieithoedd modern, er mwyn rhoi'r sgiliau arbenigol gofynnol i chi i ragori ym maes rheoli busnes yn fyd-eang, yn genedlaethol neu'n lleol?
Mae'r radd hon yn ddelfrydol ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb mewn rheoli busnes ac ieithoedd modern hefyd. Mae'n cynnwys agweddau hanfodol ar fusnes a rheoli, yn ogystal â rhoi'r cyfle i chi feithrin cymhwysedd mewn iaith fodern. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio gwahanol ieithoedd drwy sesiynau rhagflas. Bydd hyn yn rhoi profiad i chi o Fandarin, Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg a Sbaeneg cyn i chi ddewis un iaith i ganolbwyntio arni. Yn ystod eich ail flwyddyn a'ch trydedd flwyddyn o astudio, byddwch yn canolbwyntio ar astudio un iaith o'ch dewis. Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dilyn modiwlau iaith i ddechreuwyr, ac yn y drydedd flwyddyn byddwch yn symud ymlaen i lefel ganolradd. Wrth i chi wneud cynnydd yn eich astudiaethau, byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio eich iaith dramor mewn amgylchedd proffesiynol.
Y radd BSc Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yw'r rhaglen fwyaf sefydledig yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae'n adnabyddus am feithrin rheolwyr busnes hynod fedrus sy'n meddwl mewn modd masnachol. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i frandiau mwyaf y byd gan gynnwys Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg a
Wedi cwblhau'r rhaglen radd hon, byddwch yn hollol barod i ddechrau eich taith fel dinesydd byd-eang, a bydd gennych chi'r potensial i ymgymryd â sawl rôl amrywiol sy'n rhychwantu ystod eang o ddiwydiannau a gwasanaethau cyhoeddus.
Sylwer: Cynhelir blwyddyn gyntaf eich astudiaethau yn yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae, ac fe'ch addysgir ar draws Campws Parc Singleton a Champws y Bae yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn.