Trosolwg o'r Cwrs
Allet ti ddychmygu dy hun fel person sy'n allweddol i lwyddiant brand mawr? Wyt ti'n awyddus i archwilio'r cyfuniad o ieithoedd modern a byd busnes?
Gallai'r BSc Rheoli Busnes (Ieithoedd Modernym Mhrifysgol Abertawe dy helpu i gyflawni hyn.
Os na fyddi di'n cael y graddau angenrheidiol i gofrestru ar y cwrs BSc Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern), gallai'r BSc Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) gyda gradd Blwyddyn Sylfaen fod yn ddelfrydol i ti.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn llwybr ardderchog i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau gofynnol mewn rheoli busnes, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y radd BSc Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern).
Yn ystod dy radd, byddi di'n archwilio cysyniadau ym maes ieithoedd modern, gan gynnwys sesiynau rhagflas ym Mlwyddyn 1 ym Mandarin, Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg a Sbaeneg cyn dewis un iaith i ganolbwyntio arni yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn o astudio. Byddi di hefyd yn astudio modiwlau busnes craidd, gan gynnwys marchnata, cyfrifeg, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol. Cynlluniwyd modiwlau'r cwrs i sicrhau bod gennyt ddealltwriaeth gynhwysfawr o sut mae busnes ac ieithoedd modern yn gweithio cyn i ti gamu i fyd gwaith.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, a leolir drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Pan fyddi di'n cwblhau'r flwyddyn hon, caiff Blwyddyn Un o'r astudiaethau ei haddysgu yn yr Ysgol Reolaeth, a bydd dy ail a dy drydedd flwyddyn yn cael eu haddysgu ar draws Campysau Singleton a'r Bae.