Mae gwaith ar y gweill i gyflwyno system adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig (ANPR) ar Gampws y Bae ac ar Gampws Singleton. Mae hyn yn rhan o weithgarwchedd parhaus i wella rheolaeth parcio ceir a thraffig ar Gampws Singleton a Champws y Bae drwy gofnodi'r holl gerbydau sy'n dod i mewn i'r safleoedd.

Bydd y system ANPR newydd yn weithredol o ganol nos ar 1 Mehefin 2023. Mae'n bwysig nodi o'r dyddiad hwnnw, y bydd hysbysiadau o cosb dâl am barcio yn cael eu rhoi’n awtomatig yn yr achosion canlynol:

  • Pobl sy'n parcio ar y campws rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener heb hawlen ddilys.
  • Pobl sy'n parcio ar y campws yn ystod yr wythnos rhwng 4pm ac 8am, neu ar y penwythnos, heb dalu i barcio neu feddu ar hawlen y tu allan i oriau craidd swyddfa (neu hawlen ddilys arall).

CWESTIYNAU CYFFREDIN