Students in a lecture theatre

CYFLEUSTER UWCH-GYFRIFIADURON PERFFORMIAD UCHEL

Mae gan aelodau o'r grŵp fynediad at glwstwr Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Uwchgyfrifiadura Cymru sy'n ei gwneud hi'n bosib creu modelau cyfrifiadurol uwch o hydroddeinameg a morffoddeinameg arfordirol, modelu hydrometeorolegol a modelu CFD o ddyfeisiau ynni morol. 

LABORDY PEIRIANNEG ARFORDIROL

Mae gan y Labordy Peirianneg Arfordirol, a leolir ar Gampws y Bae, gafn tonnau 30 mx0.8 mx1.2 m sy'n cynnig cyfleusterau ar gyfer profi grymoedd tonnau ar strwythurau arfordirol, hydrodeinamig yn agos i'r arfordir, datblygiad tonnau a phan fyddant yn mynd yn uwch, cludo gwaddodion yn agos i'r arfordir a dyfeisiau ynni adnewyddadwy morol. Mae'r cafn yn cynnwys cynhyrchydd tonnau ar hap o fath piston gydag amsugniad tonnau gweithredol, sy'n gallu creu uchderau tonnau hyd at 0.45m. Mae gan y cyfleuster hefyd fesuryddion tonnau, system Cyflymder Delweddu Gronynnau, Anemomedr Laser Doppler (LDA) a phroffilydd gwely. 

Students in a PC Lab

MESURIAD MAES

Mae gan y grŵp amrywiaeth o offer er mwyn mesur morffoleg arfordirol a mesur paramedrau cefnforoedd, gan gynnwys dau fwi Reidio Tonnau Cyfeiriadol Datawell mkIII sy'n cael eu defnyddio ar arfordir de Cymru ac sy'n mesur amodau tonnau, gan gynnwys sbectra. Mae gennym ni amrywiaeth o droswyr pwysau isel y gellir eu defnyddio'n rhwydd i fesur tonnau ac amodau'r llanw yn agos i'r arfordir. Mae gan y grŵp fesurydd cerhyntau Valeport a Nortek Vector ADV i fesur cerhyntau. 

Ar gyfer mesuriadau topograffigol, mae gennym ni RTK-GPS, dron eBee-RTK a sganiwr laser tirol pellter hir Riegl vZ4000. Mae gan y vZ4000 amrywiaeth o 4km a chamera mewnol i'w gwneud hi'n bosib lliwio pwyntiau dychwelyd laser.Mae drôn eBee RTK yn ddrôn asgell sefydlog a bwerir gan fatris gyda chamera sefydlog sy'n wynebu i lawr. Mae hediadau a raglennwyd o flaen llaw yn casglu data delweddau y gellir eu prosesu i roi gwybodaeth dopolegol. Mae gen aelodau o'r grŵp y cymwysterau a'r hawliau Awdurdod Hedfan Sifil perthnasol i gydymffurfio â rheoliadau defnyddio dronau masnachol. 

RADAR GLAW UWCH A MODELU HYDROMETEOROLEGOL

Rydym yn falch o fod yr unig grŵp ymchwil yn y DU â'r offer dyfeisiadau arsylwi ar law arbenigol amrywiol: radar glaw band C confensiynol; dau Radar Pwyntio Fertigol (VPR) Band X symudol a phwrpasol, y gellir gosod un ohonynt yn llorweddol. Yn ogystal, rydym ni'n gweithio gyda'n partner diwydiannol i ddylunio a datblygu'r genhedlaeth nesaf o radar cyfraniad uchel, pol deuol trefn camau ar gyfer monitro a rhagweld llifogydd mewn ardaloedd dinesig. 

Mae'r grŵp yn ddeiliad cytundeb â Swyddfa Dywydd y DU i gynnal ymchwil modelu hydrometeorolegol mewn cydweithrediad â'r llwyfan NWP UKV o'r radd flaenaf. Rydym ni wedi datblygu system modelu gypledig, sy'n seiliedig ar HPC sy'n gallu efelychu proses hydrometeorolegol o faint dalgylch bach hyd at efelychiad glaw/gwynt/dŵr ffo byd-eang ar gydraniad trawiadol o 25km. 

CYFLEUSTERAU DŴR, YNNI A CHYNALIADWYEDD

  • Cafn Tonnau 30m
  • Gweler uchod – Labordy Peirianneg Arfordirol
  • Microsgop Grym Atomig
  • Microdrinydd a Chwiliedydd Colloid