Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg o 1 Awst 2022 i 31 Gorffennaf 2023
- Diogelwch ar y Campws
- Arweinyddiaeth y Brifysgol
- Llywodraethu'r Brifysgol
- Cyllid
- Caffael
- Gwerthoedd
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Gweledigaeth ac uchelgais
- Gwasanaethau Cyfreithiol
- Cydymffurfiaeth
- Diogelu Data
- Cydymffurfiaeth Y Gymraeg
- Beth yw Safonau'r Gymraeg?
- Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg
- Arfer gorau: cydymffurfiaeth
- Adroddiad Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg 1 Awst 2019 - 31 Gorffennaf 2020
- Asesu sgiliau Cymraeg ar gyfer swyddi
- Adroddiad Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg 2020-21
- Cynllun Gweithredu Safonau'r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg ar gyfer 1 Awst 2021 - 31 Gorffennaf 2022
- Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg o 1 Awst 2022 i 31 Gorffennaf 2023
- Hawl i ddefnyddio'r Gymraeg
- Adborth ynglŷn â'r Gymraeg yn y Brifysgol
- Rhyddid Gwybodaeth
- Rheoli Cofnodion
- Rheoliadau Mewnfudo
- Gwasanaethau Arlwyo
- Cysylltu â ni
Paratowyd yn unol â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
1. Cyflwyniad
Cyfeiria’r Adroddiad Blynyddol hwn at y cyfnod rhwng 1 Awst 2022 a 31 Gorffennaf 2023 a’r modd y gweithredwyd Safonau’r Iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’r adroddiad yn amlinellu’r camau a roddwyd ar waith gan y Brifysgol er mwyn sicrhau ei bod yn cydymffurfio â’r Safonau Iaith. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu rhai llwyddiannau penodol ac yn amlinellu amcanion datblygu ar gyfer 2023-24. Gellir gweld copi o Hysbysiad Cydymffurfio Prifysgol Abertawe yma.
Bu’r cyfnod 2022-23 yn gyfnod o wreiddio strwythurau newydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn dilyn cyhoeddi Camu Ymlaen: Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg 2022-27 y Brifysgol ac ehangu ar gwmpas gwaith Academi Hywel Teifi i gynnwys yr Uned Cyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith. Mae’r strwythur newydd wedi cyflwyno cyfleoedd i gydweithio er lles dwyieithrwydd y Brifysgol, gan ddwyn ynghyd faterion yn ymwneud â darpariaeth addysgol cyfrwng Cymraeg, y gwasanaeth cyfieithu, cydymffurfiaeth, a phrofiadau Cymraeg ein rhanddeiliaid.
Yn ystod y flwyddyn, bu Swyddog Polisi’r Gymraeg yn canolbwyntio ar y nodau canlynol:
- Sicrhau bod prosesau recriwtio staff y Brifysgol yn parhau ar y trywydd cadarnhaol o gynnwys sgiliau iaith Gymraeg ar y lefel gywir ym mhob swydd a gaiff ei hysbysebu, a bod adrannau yn cynllunio hyn yn strategol. O ganlyniad, gwelwyd cynnydd yn y nifer o swyddi lefel 3 a gafodd eu hysbysebu a’u llenwi, a chynnydd sylweddol yn y nifer o swyddi lefel 1. Cynhaliwyd peilot gyda’r adran farchnata pan anfonwyd holiadur sgiliau’r Gymraeg i holl staff yr adran, a’r gobaith yw cynnal yr un ymarfer mewn adrannau eraill yn fuan.
- Adolygu a chryfhau fframwaith monitro cydymffurfiaeth y Gymraeg yn fewnol ac adnabod cyfleoedd i werthuso cynnydd. Mae proses newydd ar waith erbyn hyn ar gyfer monitro’r cyfadrannau, gyda’r Swyddog Polisi yn mynychu cyfarfodydd byrddau gweithredol y cyfadrannau i drafod materion cydymffurfiaeth. Mae adolygiad o brosesau monitro’r unedau gwasanaethau proffesiynol ar waith, a’r gobaith yw ehangu hyn yn ystod y flwyddyn nesaf.
- Parhau i fonitro ac adolygu sut mae staff y Brifysgol yn defnyddio’u sgiliau Cymraeg a sicrhau cefnogaeth iddynt wneud hyn. Ceir gwybodaeth bellach yn yr adran hyfforddiant.
- Cydweithio’n agos â’r Swyddog Materion Cymraeg ac Undeb y Myfyrwyr yn ehangach i sicrhau bod eu gwaith yn cefnogi amcanion a strategaeth y Brifysgol o ran y Gymraeg. Cefnogwyd Swyddog Materion Cymraeg Undeb y Myfyrwyr i ysgrifennu Polisi Iaith Gymraeg yr Undeb yn ystod y flwyddyn ac mae’r polisi bellach ar waith.
2. Strwythur Adrodd ar y Gymraeg
Ers Haf 2022, mae Academi Hywel Teifi bellach yn cynnwys y tair uned ganlynol:
- Uned Darpariaeth Academaidd a Chreadigol – sy’n cynnwys Cangen Prifysgol Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Thŷ’r Gwrhyd, sef Canolfan Gymraeg Pontardawe
- Uned Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe – sy’n rhan o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
- Yr Uned Cyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith – sy’n cynnwys cyfieithwyr Cymraeg y Brifysgol a Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg.
Mae Pwyllgor Strategaeth y Gymraeg yn sicrhau gweithredu yn erbyn amcanion Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg Prifysgol Abertawe, a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol. Cadeirir y Pwyllgor, sy’n cyfarfod yn fisol, gan yr Athro Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi. Mae aelodau’r pwyllgor yn cynnwys penaethiaid y tair uned Academi Hywel Teifi uchod, ynghyd ag Arweinyddion y Gymraeg y tair Cyfadran, a Swyddog Prosiect Strategaeth y Gymraeg. Mae’r pwyllgor yn gweithredu fel cynghorydd arbenigol i Uwch Dîm Rheoli Prifysgol Abertawe, gan argymell newidiadau i’r strategaeth gyffredinol, neu fentrau unigol, er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd o gyflawni amcanion strategol y Brifysgol. Mae’n goruchwylio gwaith Academi Hywel Teifi, Cangen Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r gwaith o gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg gan godi ymwybyddiaeth o berthnasedd a phwysigrwydd y Gymraeg i’r Brifysgol.
Rôl Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg yn y Brifysgol, Nia Besley, yw hyrwyddo, hwyluso, cefnogi a monitro gweithrediad Safonau’r Gymraeg. Mae’r Swyddog Polisi yn aelod o Bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Brifysgol.
Macsen Davies yw Swyddog Materion Cymraeg llawn amser Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae’n cadeirio fforymau tymhorol i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg fel rhan o’i rôl yn yr Undeb ond hefyd yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd Fforwm Myfyrwyr Cangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg.
Bellach, mae gan bob cyfadran Arweinydd y Gymraeg. Mae Arweinyddion y Gymraeg yn gyfrifol am gydlynu darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg y gyfadran yn ogystal â bod â throsolwg o weithrediad Safonau’r Gymraeg yng nghyd-destun profiadau myfyrwyr yn y gyfadran. Mae gwaith yn mynd rhagddo nawr i wreiddio’r Gymraeg ymhellach ym mhrosesau gweithredu a strategaethau’r cyfadrannau.
3. Strategaeth y Gymraeg
Mae Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg y Brifysgol wedi bod ar waith bellach ers Mehefin 2022 a bu’r flwyddyn dan sylw yn gyfnod o wreiddio’r strategaeth ym mhrosesau a diwylliant y Brifysgol. Mae’r Strategaeth yn seiliedig ar bedwar piler allweddol, sef Diwylliant ein Prifysgol, Profiad y Dysgwr, Gwreiddio’r Gymraeg ledled y Brifysgol, a Chefnogi ein Hymchwil a’n Cenhadaeth Ddinesig. Dyma rhai o uchafbwyntiau’r flwyddyn a fu mewn perthynas â’r pedwar piler:
Diwylliant ein Prifysgol
Prif nod y piler hwn yw sicrhau bod ein Prifysgol yn gartref i gymuned o fyfyrwyr a staff amlieithog ac amlddiwylliannol sy’n groesawgar ac yn ffyniannus.
Wrth ddechrau swydd yn y Brifysgol, caiff pob aelod o staff newydd sesiwn anwytho sy’n cynnwys cyflwyniad i’r Gymraeg ac i Safonau’r Gymraeg, sy’n cyfeirio at gyfleoedd i ddysgu mwy. Mae’r sesiwn ar gael yn y Gymraeg hefyd. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i greu e-fodiwl ymwybyddiaeth iaith fydd ar gael i holl staff y Brifysgol yn ddwyieithog. Y bwriad yw gwneud cyflawni’r modiwl yn dasg orfodol i holl staff y Brifysgol.
Yn ystod y flwyddyn 2022-23, comisiynwyd adolygiad o wasanaethau cyfieithu’r Brifysgol, gyda’r nod o sicrhau bod yr uned yn cynnig y gwasanaeth gorau er mwyn cefnogi amcanion Cymraeg y Brifysgol ynghyd â chydymffurfiaeth â’r Safonau. Cyflwynwyd cyfres o argymhellion ac mae’r Brifysgol yn bwrw iddi i weithredu nifer ohonynt a bydd y sefydliad yn adrodd ar effaith y newidiadau yn adroddiad blynyddol 2023-24.
Er mwyn cefnogi staff i amlygu a rhoi gwybod am eu sgiliau Cymraeg, a’u defnyddio, yn y gweithle mae’r datblygiadau hyn yn cynnwys hyrwyddo gwasanaeth prawf-ddarllen ar gyfer holl staff y Brifysgol.
Ceir cyfleoedd i staff gwrdd â staff Cymraeg eraill, gan gynnwys sesiynau anffurfiol ‘siawns am sgwrs’, sesiynau cinio a chynllunio sy’n trafod blaenoriaethau Cymraeg gyda staff academaidd a gweinyddol, a fforymau’r Coleg Cymraeg. Mae’r rhain oll yn agored i holl staff y Brifysgol.
Hyrwyddir hawliau Cymraeg myfyrwyr ar adegau penodol o’r flwyddyn. Yn gyntaf, wrth gofrestru ym mis Medi, ac eto ar ddiwrnodau penodol megis Diwrnod Shw’ Mae, Diwrnod(au) Hyrwyddo Comisiynydd y Gymraeg, Dydd Gŵyl Dewi ac ati. Mae gwybodaeth wedi ei rannu’n barhaus hefyd ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Academi Hywel Teifi.
Wrth gydweithio ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, mae Aelwyd yr Urdd myfyrwyr y Brifysgol, Aelwyd yr Elyrch, yn cyfarfod yn gyson er mwyn darparu cyfleoedd cymdeithasol a sgiliau i’n myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Bu’r Aelwyd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, ac yn ddiweddar cyfrannodd y criw eitem i noson ddathlu llwyddiant yr Athro Brifardd Alan Llwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan 2023.
Yn ystod 2023, datblygodd y Brifysgol Strategaeth Ddiwylliannol newydd gan sefydlu Bwrdd Gweithredol ar gyfer gweithredu gofynion y strategaeth honno. Mae cynrychiolaeth o Academi Hywel Teifi ar y Bwrdd hwnnw a bydd y Gymraeg yn rhan greiddiol o’i weithgaredd.
Profiad y Dysgwr
Mae’r Brifysgol yn cefnogi myfyrwyr sy’n astudio elfennau o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu sy’n dewis cael eu hasesu trwy’r Gymraeg. Trwy fynediad at ddashfwrdd PowerBi mae gan y Brifysgol ddarlun byw o niferoedd myfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg ac ym mha feysydd. Mae’r dashfwrdd hefyd yn darparu gwybodaeth am niferoedd myfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg, ac i ba lefel, a hefyd y gweithlu staff yn y sefydliad.
Penodwyd Tiwtor Sgiliau Academaidd cyfrwng Cymraeg yn ystod 2022-23 sy’n cynnig apwyntiadau 1:1 i fyfyrwyr yn ogystal â sesiynau grŵp a sesiynau ar fodiwlau rhaglenni cwrs amrywiol. Mae’r sesiynau yn cynnwys meddwl yn feirniadol, ysgrifennu traethodau, sut i ddefnyddio llenyddiaeth, rheoli amser a mwy. At hynny, mae cwrs cyflogadwyedd ar gael yn Gymraeg i fyfyrwyr ar Canvas, platfform e-ddysgu’r Brifysgol, ac mae’n cynnwys modiwl penodol ar weithio mewn gweithle dwyieithog hefyd.
Cynigir cyfle blynyddol i staff a myfyrwyr i gwblhau Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ystod 2022-23, cwblhaodd 12 person y dystysgrif gan gynnwys 3 aelod o staff.
Yn ystod y flwyddyn hefyd, dathlwyd degawd o fodolaeth Cangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg a chyhoeddwyd newyddlen yn cofnodi’r datblygiadau a chynhaliwyd gwobrau i gydnabod cyfraniadau myfyrwyr a staff i gynnydd y Gymraeg yn y Brifysgol.
Yn ystod y flwyddyn, crëwyd prosesau a chanllawiau newydd i staff ynghylch hyrwyddo a chroesawu ceisiadau gan fyfyrwyr i gael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â Safon 90. Sicrhawyd bod pob cyfadran yn ymwybodol o’r prosesau a sut i ymateb i gais gan fyfyriwr i gael eu hasesu trwy’r Gymraeg.
Gwreiddio’r Gymraeg ledled y Brifysgol
Mae amcanion y piler hwn yn amlinellu sut bydd y Brifysgol yn cydymffurfio â gofynion rheoliadau Safonau’r Gymraeg a rhagori arnynt.
Yn ystod y flwyddyn, adolygwyd Polisi Defnyddio’r Gymraeg yn Fewnol y Brifysgol, a chyhoeddwyd polisi mewnol newydd yn seiliedig ar ddeg o egwyddorion craidd. Mae’r Polisi Defnyddio’r Gymraeg yn y Gwaith yn nodi y bydd y Brifysgol yn:
- Annog ac yn cefnogi myfyrwyr, staff ac eraill sy’n dod i gyswllt â’r Brifysgol i ddefnyddio’r Gymraeg.
- Darparu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, gan hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yn rhagweithiol a galluogi pob aelod o gymuned y Brifysgol i feithrin perthynas ystyrlon â’r iaith a’i diwylliant.
- Sicrhau y bydd y gwasanaethau yr ydym yn eu cyflenwi yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg o’r un ansawdd yn Gymraeg a Saesneg – yr un mor weledol, yr un mor hawdd eu defnyddio a’r un mor effeithiol.
- Cofnodi dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) ein staff, myfyrwyr a chyn—fyfyrwyr. Darperir gohebiaeth a gwasanaethau ar eu cyfer yn unol â’r dewis iaith hwnnw.
- Gwirio bod ein polisïau a systemau recriwtio staff yn sicrhau bod capasiti dwyieithog i’w gael yn gyson ar draws ystod o wasanaethau ac adrannau’r Brifysgol.
- Sicrhau bod ein polisïau, ein cynlluniau a’n prosiectau yn rhoi ystyriaeth lawn a lle canolog a naturiol i’r Gymraeg o’r dechrau’n deg rhag tanseilio statws neu ddefnydd o’r Gymraeg yn y sefydliad.
- Sicrhau ystod o gyfleoedd ac anogaeth i’n staff ddatblygu a chryfhau eu sgiliau Cymraeg, gyda’r nod o gynyddu defnydd o’r Gymraeg yng ngweithleoedd y Brifysgol.
- Darparu cyfleoedd i’n myfyrwyr astudio drwy’r Gymraeg a derbyn cefnogaeth i wneud hynny.
- Defnyddio arbenigedd ymchwil i gynllunio’n rhagweithiol a blaengar er lles defnydd o’r Gymraeg yn y Brifysgol ac yn ehangach.
- Cofnodi penderfyniadau, prosesau, llwyddiannau a chwynion sy’n berthnasol i’r Gymraeg.
Cefnogi ein hymchwil a’n cenhadaeth ddinesig
Rydym yn sefydliad sy’n gwerthfawrogi pob cyfle i gydweithio â phartneriaid amrywiol, ac yn ôl ein harfer, rydym wedi cydweithio â nifer yn ystod 2022-23. Mae cydweithio effeithio lleol wedi digwydd gyda’r Mentrau Iaith yn ein dalgylch a hynny ar brosiectau i gefnogi cyfleoedd cymdeithasu i fyfyrwyr a dysgwyr Cymraeg a hefyd wrth ddarparu gofodau neu gyfleoedd i'n dysgwyr (staff, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd) ymarfer y Gymraeg. Cydweithiwyd ag Urdd Gobaith Cymru ar y GwyddonLe a chyda Academi Heddwch Cymru ar weithgaredd a phrosiectau amrywiol.
Dros y flwyddyn bu ein Canolfan Gymraeg yng Nghwm Tawe, Tŷ’r Gwrhyd, yn gweithio’n galed i ailagor yn llawn i grwpiau cymunedol ac i ddarparu llyfrau ac adnoddau addysgol cyfrwng Cymraeg trwy’r siop yn dilyn cyfnodau clo Covid.
Bydd ffocws y gwaith yn 2023-24 yn troi at ddatblygiadau ymchwil.
4. Cydymffurfio â'r Safonau Gwasanaethau
Mae Swyddog Polisi’r Gymraeg yn parhau i hyrwyddo’r safonau cyflenwi gwasanaethau a hyfforddi staff ynghylch y gofynion, yn ogystal â monitro cydymffurfiaeth mewn amryw ffyrdd: dulliau e-gyfathrebu mewnol amrywiol, sesiynau sefydlu staff newydd, cymorthfeydd pwrpasol a hyfforddiant penodol. Gweithir hefyd gyda chorff y myfyrwyr i bwysleisio eu hawliau.
Yn ystod y flwyddyn, cryfhawyd prosesau monitro’r Brifysgol, gan ddechrau gyda’r cyfadrannau. Erbyn hyn, mae proses hunan-fonitro blynyddol y cyfadrannau yn parhau, ond law yn llaw â hyn mae’r Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth yn cynnal log ar gyfer pob cyfadran sy’n cynnwys canfyddiadau’r holiadur hunanasesu, monitro strwythuredig neu ar hap gan y Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth a chynnwys unrhyw adborth neu gwynion a dderbynnir. Mae’r log yn nodi’r categori bras (e.e. gohebiaeth) ynghyd â dyddiad targed ar gyfer pob mater a nodir. Y bwriad ar gyfer eleni yw adolygu prosesau monitro ar gyfer yr unedau gwasanaethau proffesiynol.
5. Cydymffurfio â'r Safonau Llunio Polisi
Mae pob polisi a strategaeth newydd yn destun prosesau Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb (“EqIA”). Mae adran ynglŷn â’r Gymraeg ar bob ffurflen EqIA. Mae astudiaethau achos yn ffurfio rhan o dempled y ffurflen er mwyn cynorthwyo’r broses o ystyried yn llawn y goblygiadau o safbwynt y Gymraeg. Mae tîm Cydraddoldeb y Brifysgol yn cydweithio â Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg i ddadansoddi ffurflenni EqIA drafft fel y gellir ymyrryd yn gynnar yn y broses o benderfynu, yn ôl yr angen. Mae Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg yn cadw cofnod o’r holl asesiadau sydd wedi’u cyflawni.
Trwy aelodaeth Cyfarwyddwr yr Academi o Uwch Dîm Rheoli Gwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol ers Haf 2022, mae bellach modd clywed ynghynt am unrhyw newidiadau arfaethedig a darparu ymyrraeth gynnar mewn unrhyw waith addasu polisïau.
Cwblhawyd yr Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a’r Gymraeg canlynol yn ystod y cyfnod dan sylw: Polisi Astudio Estynedig ar gyfer Doethuriaethau, Polisi Asesu, Marcio ac Adborth, Polisi Gwaith Maes, Polisi Mamolaeth/Tadolaeth Myfyrwyr ôl-raddedig, Polisi Symudedd Byd-eang, Polisi Ceir Electrig, Strategaeth Ddigidol y Brifysgol, Polisi Cyflogadwyedd Myfyrwyr, Polisi ynghylch plant ar safle’r Brifysgol a Pholisi Secondiadau.
6. Cydymffurfio â'r Safonau Gweithredu
Yn dilyn cyhoeddi Polisi Defnyddio’r Gymraeg yn y Gwaith ar ei newydd wedd, mae’r dasg o hyrwyddo’r polisi ymhlith ein staff yn parhau ar hyn o bryd.
Bydd pob cyflogai newydd sy’n nodi pan gynigir iddo a hoffai gyfweliad cyfrwng Cymraeg, ac aelodau staff presennol sy’n datgan pan ofynnir iddynt mai’r Gymraeg yw eu dewis iaith, yn derbyn cytundeb cyflogaeth yn y Gymraeg, yn ogystal â gohebiaeth a gyfeirir ato’n unigol sy’n ymwneud a’u cyflogaeth.
Mae staff yn gallu nodi eu dewis iaith ar y system adnoddau dynol, ABW, a chaiff y cofnod hwn ei wirio wrth ohebu gyda staff. Rhoddir gwybod i staff, trwy hyfforddiant gan Swyddog Polisi’r Gymraeg a chanllaw ar fewnrwyd y staff, sut y gellir gwirio a diweddaru’r wybodaeth hon.
Gofynnir i bob ymgeisydd swydd am ei sgiliau Cymraeg, a chaiff y wybodaeth a ddarperir ei fwydo i mewn i’r system adnoddau dynol os caiff yr unigolyn ei benodi. Mae modd i aelodau staff ddiweddaru eu sgiliau Cymraeg drwy ddull hunanwasanaeth yn y system adnoddau dynol, ac fe’u hatgoffir i wneud hyn fel rhan o’r hyfforddiant a gaiff ei ddarparu gan Swyddog Polisi’r Gymraeg ac ar fewnrwyd staff y Brifysgol. Anogir staff hefyd i ailystyried y wybodaeth hon wrth iddynt wella eu sgiliau Cymraeg.
Hefyd, mae’r cyfleoedd i staff gyfathrebu yn y Gymraeg wedi’u cryfhau yn ddiweddar wrth greu bathodyn Cymraeg (oren tywyll ar gyfer siaradwyr rhugl, neu oren golau ar gyfer siaradwyr canolradd – yr aelod o staff sy’n dewis beth hoffent ei ddefnyddio) ar gyfer proffil Outlook (e-bost) staff. Cafodd y bathodyn newydd ei hyrwyddo i holl staff y Brifysgol, a sicrhaodd y Swyddog Polisi bod pob aelod staff yn derbyn y bathodyn ynghyd â chyfarwyddiadau ar sut i’w lanlwytho. Rhoddwyd esboniad hefyd ar gyfer staff nad ydynt yn siarad Cymraeg ynghylch beth yw pwrpas y bathodyn, ac anogwyd dysgwyr i roi cynnig ar ddefnyddio’u Cymraeg pan fyddant yn gweld y bathodyn. Mae’r Swyddog Polisi yn sicrhau bod unrhyw aelod newydd o staff yn derbyn y bathodyn.
7. Sgiliau Cymraeg Staff y Brifysgol
Staff gweinyddol (Cyfanswm 2115)
|
Darllen |
Ysgrifennu |
Siarad |
Deall |
Ddim eisiau dweud |
* |
- |
- |
- |
Dim o gwbl |
922 (44%) |
1099 (52%) |
870 (41%) |
757 (36%) |
Ychydig |
691 (33%) |
560 (27%) |
759 (36%) |
813 (38%) |
Eithaf da |
115 (5%) |
112 (5%) |
92 (4%) |
133 (6%) |
Rhugl |
172 (8%) |
127 (6%) |
179 (8%) |
201 (10%) |
Dim data** |
212 (10%) |
214 (10% |
212 (10%) |
208 (10%) |
*Mae’r opsiwn i beidio â dweud wedi’i ddileu o’r system erbyn hyn
** Er nad oes dewis i staff newydd beidio rhannu gwybodaeth am eu gallu iaith Gymraeg, mae’r system yn parhau i gynnwys aelodau staff nad sydd wedi diweddaru eu cofnod, er eu bod yn derbyn gwahoddiadau i ddiweddaru’r cofnod.
Staff Academaidd (Cyfanswm 1716)
|
Darllen |
Ysgrifennu |
Siarad |
Deall |
Ddim eisiau dweud |
* |
- |
- |
- |
Dim o gwbl |
952 (56%) |
1069 (62%) |
949 (55%) |
877 (51%) |
Ychydig |
367 (21%) |
277 (16%) |
379 (22%) |
417 (24%) |
Eithaf da |
66 (4%) |
52 (3%) |
52 (3%) |
84 (5%) |
Rhugl |
111 (6%) |
97 (6%) |
117 (7%) |
119 (7%) |
Dim data |
216 (13%) |
217 (13%) |
215 (13%) |
215 (13%) |
Newid yn y canran o siaradwyr Cymraeg rhwng adroddiad 2021-22 ac adroddiad 2022-23 o ran sgiliau siarad Cymraeg:
Staff gweinyddol
Lefel |
2021-22 |
2022-23 |
Rhugl |
7% |
8% |
Eithaf da |
3% |
4% |
Ychydig |
29% |
36% |
Staff academaidd
Lefel |
2021-22 |
2022-23 |
Rhugl |
7% |
7% |
Eithaf da |
2% |
3% |
Ychydig |
19% |
22% |
Cynhaliwyd y niferoedd staff sydd â sgiliau Cymraeg rhugl neu eithaf da dros y flwyddyn. Bu ychydig o gynnydd yn y nifer o staff sy’n nodi eu bod yn siarad ychydig o Gymraeg. Mae’n bosib bod hyn yn adlewyrchu’r ymdrechion a wneir i hyrwyddo cyrsiau iaith sylfaenol ymhlith staff y Brifysgol.
8. Cwynion
Mae Prifysgol Abertawe yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r Gymraeg yn y Brifysgol. Mae Gweithdrefn Gwyno y Gymraeg ar gael ar wefan y Brifysgol.
Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn ystod y cyfnod dan sylw.
9. Hyfforddiant
Mae Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg yn cynnig cyrsiau penodol am ddim i staff:
- Cwrs awr-o-hyd “Cymraeg sylfaenol” sy’n cyflwyno hanes y Gymraeg, geiriau ac ymadroddion Cymraeg cyffredin, a hanfodion ynganu.Yn ystod 2022-23, cyflawnodd 73 aelod staff y cwrs hwn.
- Cwrs awr-o-hyd sy’n manylu ar ofynion Safonau’r Gymraeg. Yn ystod 2021-22, cyflawnodd 18 aelod staff y cwrs hwn.
- Yn ogystal a hyn, mae pob aelod staff newydd yn derbyn cyflwyniad i’r Gymraeg gan Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg fel rhan o’r rhaglen sefydlu staff. Yn ystod 2022-23, cafodd 562 aelod staff y cyflwyniad hwn i’r Gymraeg yn y Brifysgol (sesiynau Saesneg). Mae’r cwrs sefydlu llawn hwn hefyd ar gael yn y Gymraeg. Cyflawnodd 5 aelod o staff yr hyfforddiant sefydlu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Y tu hwnt i’r cwrs Cymraeg Sylfaenol, manteisir ar y berthynas agos gydag Uned Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe i ddarparu cyrsiau ar bob lefel i staff, ac i fyfyrwyr mewn rhai achosion. Ceir amlinelliad isod o’r ddarpariaeth oedd ar gael yn ystod y cyfnod dan sylw.
1. Cyrsiau cymunedol (darpariaeth brif ffrwd):
Yn ystod 2022-23 bu modd i staff fanteisio ar god disgownt arbennig i dderbyn eu cwrs cymunedol Dysgu Cymraeg am ddim gan gofrestru trwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost y Brifysgol. Mae’r tabl canlynol yn nodi faint o staff gwblhaodd y cyrsiau cymunedol fesul lefel.
Blasu |
1 |
Mynediad |
10 |
Sylfaen |
4 |
Canolradd |
4 |
Uwch |
3 |
Cyfanswm ar gyrsiau cymunedol |
22 |
2. Cyrsiau yn y Gweithle
Mae’r tabl canlynol yn nodi faint o staff gwblhaodd cyrsiau yn y gweithle, gan gynnwys cyrsiau oedd wedi eu teilwra ar gyfer carfannau penodol o fyfyrwyr a staff adrannol:
Cyrsiau Cyfarch i staff |
34 |
Cyrsiau Meddygaeth |
71 |
Cyrsiau TAR |
89 |
Cyrsiau Gwaith Cymdeithasol |
22 |
Cyrsiau Gofal Iechyd |
18 |
Cyfanswm |
234 |
Ar gyfer 2022-23 roedd Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi dynodi bod angen i fyfyrwyr cyrsiau Gofal Iechyd gael asesiad o’u sgiliau Cymraeg. Felly aseswyd canran o’r myfyrwyr mewn sesiynau wyneb-yn-wyneb neu trwy gyfathrebu ar ebost / holiadur. Aseswyd sgiliau 460 / 594 o fyfyrwyr (77%).
3. Cyrsiau Cynllun Cymraeg Gwaith Addysg Uwch (Medi 2022 – Mawrth 2023)
Cyllidir y cynllun gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac fe’i gweinyddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cydweithrediad ag Academi Hywel Teifi, gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn darparu:
|
Wedi cyflawni’n rhannol |
Wedi cwblhau |
Mynediad |
62 |
24 |
Sylfaen |
12 |
8 |
Canolradd |
11 |
4 |
Uwch |
7 |
5 |
Hyfedredd |
- |
6 |
Cyfanswm |
92 |
47 |
Ers Ebrill 2023 mae cylch newydd o gyrsiau Cymraeg Gwaith wedi cychwyn, felly ar gyfer Tymor yr Haf 2023 roedd y niferoedd canlynol wedi’u cofrestru ar y cyrsiau:
Mynediad |
39 |
Sylfaen |
23 |
Canolradd |
4 |
Uwch |
7 |
Hyfedredd |
9 |
Cyfanswm cyfredol |
82 |
Y tu hwnt i’r sesiynau swyddogol, caiff sesiynau ymwybyddiaeth ac iaith hefyd eu cynnal mewn modd llai ffurfiol yn ôl y galw, a chynhelir sesiynau cymdeithasol yn y Gymraeg yn achlysurol i staff sy’n siarad Cymraeg ar bob lefel.
10. Recriwtio i Swyddi Gwag
Wrth greu swydd newydd neu lenwi swydd wag, cynhelir asesiad o’r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer y swydd honno.
Dyma amlinelliad o’r swyddi a hysbysebwyd yn ystod y cyfnod, ynghyd â’r sgiliau Cymraeg:
Cyfanswm y swyddi a gafodd eu hysbysebu yn ystod y cyfnod dan sylw |
1883 ( -3% ers 21/22) |
Cyfanswm y swyddi a gafodd eu llenwi yn ystod y cyfnod dan sylw |
1487 (+15% ers 21/22) |
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 3’ (rhugl) a gafodd eu hysbysebu |
35 (+3% ers 21/22) |
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 3’ (rhugl) a gafodd eu llenwi |
31 (+23% ers 21/22) |
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 2’ (eithaf da) a gafodd eu hysbysebu |
13 ( -23% ers 21/22) |
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 2’ (eithaf da) a gafodd eu llenwi |
11 (dim newid ers 21/22) |
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 1’ (ychydig) a gafodd eu hysbysebu |
1819 (+25% ers 21/22) |
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 1’ (ychydig) a gafodd eu llenwi |
1439 (+39% ers 21/22) |
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 0’ a gafodd eu hysbysebu |
2 ( -99%% ers 21/22) |
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 0’ a gafodd eu llenwi |
1 ( -99% ers 21/22) |
|
|
Cyfanswm y swyddi nas cynhaliwyd asesiad sgiliau Cymraeg ar eu cyfer a gafodd eu hysbysebu |
14 (+93% ers 21/22) |
Cyfanswm y swyddi nas cynhaliwyd asesiad sgiliau Cymraeg ar eu cyfer a gafodd eu llenwi |
5 (+100% ers 21/22) |
Yn ystod y flwyddyn dan sylw, bu’r Brifysgol yn cynnal adolygiad o’i phrosesau recriwtio a phenodi staff a sicrhawyd bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r Gymraeg yn y broses hon. Mae’r gwaith yn parhau ar hyn o bryd.
11. Crynodeb
Bu’r flwyddyn 2022-23 yn un gadarnhaol o ran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae sylfeini Cymraeg y Brifysgol wedi’u hatgyfnerthu a’u hadfywio trwy ail-strwythuro bwriadus Academi Hywel Teifi ar ei newydd wedd, a’r strategaeth hollbwysig Camu Ymlaen.
Yn ystod 2023-24, bydd Swyddog Polisi’r Gymraeg yn canolbwyntio’n bennaf ar:
- Gorffen datblygu e-fodiwl ymwybyddiaeth iaith ar gyfer holl staff y Brifysgol
- Parhau i gryfhau prosesau monitro mewnol
- Cryfhau’r broses cynllunio gweithlu a chategorïo sgiliau Cymraeg mewn swyddi i ddiwallu gofynion ein gwasanaethau
- Cefnogi’r gwaith o ail-gyflunio’r Gwasanaeth Cyfieithu
12. Manylion Cyswllt
Mae rhagor o wybodaeth am ymrwymiad y Brifysgol i’r Gymraeg ar gael ar y dudalen ganlynol: https://www.abertawe.ac.uk/safonaur-Gymraeg
Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg: cydymffurfiaeth@abertawe.ac.uk
Cyhoeddir yr adroddiad hwn yn unol â Safonau 166, 172 a 178.