Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i hyrwyddo economi gylchol wedi sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol.
Fe'i henwyd yn brifysgol enghreifftiol gan yr Ellen Macarthur Foundation o ganlyniad i'w hamrywiaeth eang o weithgareddau ymchwil ac addysgu, yn ogystal â'r ffordd y mae'n cynnal ei champysau.
Nod yr ymddiriedolaeth, a sefydlwyd gan y fenyw a fu'n destun ysbrydoliaeth ym meysydd hwylio ac ymgyrchu, yw cyflymu'r broses o newid i economi gylchol. Mae economi gylchol yn ddewis amgen i economi draddodiadol sy'n ceisio lleihau gwastraff, adfer adnoddau ar ddiwedd cylch oes cynnyrch, a sicrhau y cânt eu cynhyrchu eto, gan leihau'r pwysau ar yr amgylchedd yn sylweddol.
Meddai Dr Jennifer Rudd, Uwch-ddarlithydd sy'n addysgu am newid yn yr hinsawdd: “Mae'r ffaith bod yr ymddiriedolaeth wedi tynnu sylw at y Brifysgol yn tanlinellu ein hymrwymiad i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
“Yma yn Abertawe, rydym yn gwneud cyfraniad pwysig at ddeall a defnyddio'r economi gylchol, sef adnodd nad ymchwilir iddo ac nas defnyddir yn ddigonol wrth liniaru newid yn yr hinsawdd.”
Yn benodol, cydnabu'r ymddiriedolaeth fod y Brifysgol yn arwain nifer o raglenni ymchwil sy'n werth o leiaf filiwn o bunnau. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Grŵp Ymchwil ac Arloesi'r Economi Gylchol (CERIG), sy'n gweithio i gysylltu arbenigedd a phrofiadau cyfatebol i hwyluso gwaith arloesi ac ymchwil mewn cysylltiad â'r economi gylchol yng Nghymru;
- Rhaglen Cymunedau Arloesi'r Economi Gylchol (CEIC), sy'n ymchwilio i ddiddordeb y cyhoedd a sefydliadau yn y trydydd sector a'r ffordd y gall sefydliadau gyd-greu atebion rhanbarthol i broblemau rhanbarthol;
- Circular Revolution, sy'n bartneriaeth rhwng Riversimple, Abertawe a Phrifysgol Caerwysg i gynorthwyo sefydliadau i newid i fodelau busnes cylchol;
- SUSTAIN (Strategic University Steel Technology and Innovation Network), sy'n arwain prosiectau her fawr sy'n ymchwilio i ffyrdd clyfar o brosesu dur a chynhyrchu dur a haearn mewn modd carbon niwtral; ac
- ACCEPTED (ACceleration of Circular Economy for Printable Photovoltaics Through Eco-Design) ac LCA4CE (Life Cycle Analysis for Circular Economy), sy'n dadansoddi cylchoedd oes ac yn ymchwilio i gylchoedd oes cynnyrch.
Amlygwyd gweithgareddau addysgu'r Brifysgol ar raglen CEIC, a arweinir gan Dr Gary Walpole ac sy'n rhan o'r addysg weithredol a gynigir yn yr Ysgol Reolaeth, fel enghraifft o addysg economi gylchol. Yn ogystal, mae'r Coleg Peirianneg yn cynnig modiwlau sy'n galluogi israddedigion i ddysgu am yr economi gylchol.
I ffwrdd o'r labordai a'r darlithfeydd, mae'r Brifysgol yn parhau i ymrwymo i reoli amrywiaeth o fentrau llwyddiannus sydd ar waith ar y campws. Mae'r rhain yn amrywio o'i rhaglen SWell, sy'n annog ac yn gwobrwyo staff am fyw mewn modd mwy cynaliadwy, i'w chyfranogiad yn y cynlluniau Terracycle a NappyCycle.
Hefyd, amlygodd yr ymddiriedolaeth y siop dim gwastraff na phlastig ar Gampws Singleton – yr un gyntaf a agorwyd gan unrhyw brifysgol yng Nghymru – i ddangos bod Abertawe ar flaen y gad.
Meddai Dr Emily Bacon, Darlithydd ar raglen CEIC: “Ystyrir bod yr ymddiriedolaeth yn arloesol yn y maes hwn. Mae hi wrth wraidd ymchwil, addysg a chamau gweithredu i amlygu a hyrwyddo economïau cylchol. Mae'r gydnabyddiaeth hon wir yn dangos effaith ein gwaith a sut rydym hefyd wedi meithrin enw dymunol bellach.”