Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi ennill £1,000 mewn cystadleuaeth am ei syniad i greu cronfa ddata ar-lein ar gyfer cyflenwyr, gwneuthurwyr a delwriaethau cerbydau.
Creodd Garin Lloyd, sy'n fyfyriwr rheoli busnes, argraff ar feirniaid o'r cwmni moduro Keyloop, a drefnodd y gystadleuaeth, gyda'r syniad i symleiddio'r berthynas rhwng delwriaethau a'r gadwyn gyflenwi dan enw ei gwmni, ‘Focus Logistics’. Mae ei gynnig yn ymwneud â chreu ap sy'n dal cronfa ddata o'r deunyddiau a'r cerbydau sydd ar gael, gan leihau costau caffael a gwastraff.
Dywed Garin am ei gynnyrch: “Bydd delwriaethau'n cael comisiwn uwch am eu gwerthiannau a gall y busnes ei hun fwynhau buddion ariannol y cynnyrch a'r gwasanaeth cadarnhaol a roddir, drwy gymorth Focus Logistics.”
Rhoddwyd y cyfle i fwy na 1,000 o fyfyrwyr o'r DU, Iwerddon a Chanada gystadlu â chymheiriaid, a dewiswyd y tîm gorau o bob prifysgol i ennill y wobr £1,000. Ar gyfer digwyddiad Keyloop yn 2022, gofynnwyd i fyfyrwyr ddatblygu cynnyrch technolegol a allai gael effaith go iawn ar y diwydiant manwerthu cerbydau. Cafodd y myfyrwyr a oedd yn berchen ar y 30 cynnig gorau y profiad unigryw o ddatblygu eu syniadau ochr yn ochr ag arbenigwyr, cyn ymddangos o flaen beirniaid i gyflwyno eu cynnyrch.
Meddai Tom Kilroy, Prif Swyddog Gweithredu Keyloop:
“Crëwyd cystadleuaeth Dealer Tech gan Keeloop i feithrin pobl dalentog newydd a'u hannog i ddarganfod y posibiliadau gwych sy'n bodoli ar gyfer gyrfa yn y diwydiant manwerthu cerbydau. Yn 2020, rhoddodd y gystadleuaeth sgiliau a phrofiadau i'n holl ymgeiswyr i'w helpu i lwyddo yn y byd cyflogaeth cystadleuol i raddedigion. Rydyn ni wedi darparu dosbarthiadau meistr a'u mentora am strategaethau busnes, a dylunio a datblygu cynnyrch. Yn gyfnewid am hynny, rydyn ni'n gweld rhai syniadau gwirioneddol arloesol a allai gael effaith gadarnhaol iawn ar y ffordd y mae cwsmeriaid yn prynu, yn gwasanaethu neu'n defnyddio ceir.
Ceir rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth yma.