Portread artist o adeilad newydd CISM o’r tu allan.

Mae cyfleuster ymchwil ac arloesi newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn hwb cyllid gwerth bron £2.5m i gynnal prosiect a fydd yn treialu strategaethau arloesol i leihau allyriadau fel y bydd y diwydiant lled-ddargludyddion yn helpu'r sector i gyflawni ei uchelgeisiau sero net.

Mae lled-ddargludyddion yn galluogi llawer o agweddau ar ein byd technolegol modern, gan gynnwys cyfrifiaduron, ffonau clyfar, telegyfathrebu a'r rhyngrwyd. Maent hefyd yn allweddol er mwyn hyrwyddo'r agenda sero net a datgarboneiddio ein cymdeithas.

Cynhelir prosiect SIN_0 (Arloesi Lled-ddargludyddion at Ddibenion Sero Net), sydd newydd ei greu, yn y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM), sef cyfleuster a ariennir gan UKRPIF sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant – pan gaiff ei chwblhau ym mis Medi 2022. Y ffocws yn CISM fydd creu technolegau lled-ddargludol at ddibenion y dyfodol agos er mwyn cefnogi uchelgeisiau sero net megis celloedd solar uwch a dulliau electroneg pŵer effeithlon i drydaneiddio trafnidiaeth. Mae CISM yn rhan o glwstwr rhanbarthol CSconnected o bartneriaid ym myd diwydiant, prifysgolion, sefydliadau ymchwil a thechnoleg, a llywodraeth sy'n ysgogi'r sector lled-ddargludyddion yn ne Cymru.

Nod prosiect SIN_0, a fydd yn derbyn cyllid gwerth £2,450,000, yw ehangu'r agenda honno i ddefnyddio a phrofi strategaethau arloesol i leihau allyriadau wrth gynhyrchu a stori ynni, ac wrth reoli ffrydiau gwastraff ac adnoddau. Bydd SIN_0 yn arloesi'r broses o ddatgarboneiddio isadeiledd ymchwil uwch megis cyfleuster CISM, yn ogystal â lleihau'r risg sy'n deillio o'r ymyriadau y bydd eu hangen ar y diwydiant gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion er mwyn lleihau ôl troed carbon y sector yn gyflym ac yn sylweddol.

Dyma un o naw prosiect mewn prifysgolion yn y DU sy'n barod i leihau ôl troed carbon cyfleusterau ymchwil, drwy'r hwb cyllid gwerth £18.9m. Bydd y buddsoddiad yn helpu prifysgolion i wella, diweddaru ac addasu canolfannau a chyfleusterau ymchwil er mwyn lleihau eu hallyriadau carbon, a gwneud prosesau ymchwil yn fwy cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol.

Bu Research England, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), yn gyfrifol am y buddsoddiad ar y cyd â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Chyngor Cyllido'r Alban.

Sefydlwyd y canolfannau a'r cyfleusterau sy'n derbyn cyllid drwy UKRPIF (Cronfa Buddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU) yn wreiddiol. Rheolir y gronfa hynod lwyddiannus gan Research England.

Mae'r prosiectau sydd wedi derbyn cyllid yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd ymchwil, gan gynnwys roboteg, technoleg ddigidol, awyrofod ac electroneg, mewn lleoliadau ledled y DU. Maent hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o ymagweddau at allyriadau carbon. 

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

“Mae Prifysgol Abertawe'n hynod falch o dderbyn cyllid sero net UKRPIF er mwyn ychwanegu at nodweddion arloesol ein Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol. Yn ogystal â chyflawni uchelgeisiau sero net ein sefydliad, rhan o'n cenhadaeth yw cefnogi'r diwydiant lled-ddargludyddion yn ein rhanbarth ac ymysg partneriaid CSconnected wrth inni ddatblygu, gyda'n gilydd, y technolegau a fydd yn datgarboneiddio gweithgynhyrchu ac yn helpu Cymru a'r byd i gyflawni ein targedau sero net.” 

Meddai Dr David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru:

“Mae'n wych gweld bod addysg uwch yng Nghymru wrth wraidd datblygiadau technolegol sy'n allweddol er mwyn cyflawni'r uchelgeisiau sero net. Mae'r prosiect arloesol a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn adeiladu ar arbenigedd mewn lled-ddargludyddion, sy'n hollbwysig i'r ffordd rydym yn byw ein bywydau ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol, er mwyn mynd i'r afael ag effaith y technolegau hyn ar yr amgylchedd. Llongyfarchiadau mawr i Abertawe am sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect mewn maes sy'n hynod gystadleuol yn y DU."

Meddai David Sweeney, Cadeirydd Gweithredol Research England:

“Mae gan UKRPIF hanes cryf o ariannu cyfleusterau arloesol sy'n cefnogi ymchwil o'r radd flaenaf ac yn cryfhau partneriaethau rhwng prifysgolion a sefydliadau eraill sy'n weithredol ym maes ymchwil.

“Drwy dreialu'r ymagwedd arloesol hon at gyflawni targedau sero net mewn isadeiledd, rydym yn gobeithio y bydd y cynllun hwn yn ein helpu i ddysgu mwy am yr hyn sy'n gweithio fel y gallwn ni a'r sector addysg uwch ei ystyried yng ngweithgareddau'r dyfodol ac adeiladu ar fodel UKRPIF sydd eisoes yn llwyddiannus.”

Meddai'r Athro Duncan Wingham, Cadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) a noddwr Cynaliadwyedd Amgylcheddol a Sero Net yn UKRI:

“Mae ein Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn ymrwymo UKRI i helpu'r sector ymchwil i leihau ei effeithiau negyddol ar yr amgylchedd. 

“Bydd y cyllid hwn yn helpu'r cyfleusterau a'r canolfannau cenedlaethol blaenllaw hyn i ddatblygu ffyrdd arloesol o leihau'r galw am ynni a chynyddu'r defnydd o bŵer adnewyddadwy mewn rhai amgylcheddau ymchwil unigryw.

“Mae UKRI yn falch o'i rôl wrth helpu i leihau allyriadau carbon a fydd yn deillio o gyflawni allbynnau ymchwil arloesol sy'n cefnogi targedau sero net sefydliadol a chenedlaethol.” 

Dechreuodd y prosiectau ym mis Ebrill 2022 a byddant yn para tan fis Mawrth 2023.

Rhannu'r stori