Mae wyth academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Maent yn ymuno â 58 o gymrodyr newydd eraill a etholwyd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, y mae hanner ohonynt yn fenywod, gan ddangos bod gan Gymru'r atebion i lawer o heriau cyfoes.
Y canlynol yw'r cymrodyr newydd o Brifysgol Abertawe:
- Yr Athro Sondipon Adhikari FRAeSFRAeS FLSW, Athro er Anrhydedd
- Yr Athro Paul Boyle CBE FBA FRSE FRSGS FLSW, Is-ganghellor
- Yr Athro Elaine Crooks FLSW, Athro Mathemateg
- Yr Athro Stefan Doerr FLSW, Athro (Gwyddor Tanau Gwyllt)
- Yr Athro Kamila Hawthorne MBE FRCGP FRCP FAcadMEd FLSW, Pennaeth Meddygaeth i Raddedigion
- Yr Athro Kathryn Monk FRES FRGS FRBS FIEnvSc FLSW, Athro er Anrhydedd
- Mr Steve Morris FLSW, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol
- Yr Athro Andrew Rowley FRSB FLSW, Athro (Cadair Bersonol) yn y Biowyddorau
Mae'r arbenigaethau'n amrywio o beirianneg awyrofod i hanes pobl Ewropeaidd Affricanaidd, microadeileddau seramig i’r ffidl Faróc, menywod mewn llawfeddygaeth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a llawer o feysydd eraill.
Meddai'r Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas: “Mae arbenigedd ein Cymrodyr newydd yn rhagorol. Mae amrywiaeth yr ymchwil yn dangos bod Cymru mewn sefyllfa dda i ymdrin â'r heriau amgylcheddol, technegol, cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac iechyd sy’n ein hwynebu.
“Mae gallu’r Gymdeithas i ddod â’r bobl dalentog yma at ei gilydd yn ein galluogi i ddechrau trafodaethau pwysig, a dylanwadu arnynt, ynghylch sut gall Cymru, y DU a’r byd lywio’r dyfroedd tymhestlog sydd o’n blaenau heddiw.
“Rwy’n falch iawn bod 50% o’n cymrodyr newydd yn fenywod. Mae hyn yn dangos ein bod yn dechrau bodloni ein hymrwymiadau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae rhagor o waith i'w wneud, wrth i ni weithio i sicrhau bod y Gymdeithas yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru, ond dyma gam pwysig.”
Bydd y cymrodyr newydd yn cael eu derbyn yn ffurfiol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, a gynhelir ar 25 Mai.