Mae bardd, nofelydd ac ysgrifydd o America, Patricia Lockwood, wedi ennill un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei nofel gyntaf, No One Is Talking About This (Bloomsbury Publishing).
Mae nofel Lockwood, a gafodd ei chynnwys hefyd ar restr fer The Booker Prize a'r Women’s Prize for Fiction yn 2021, yn dadansoddi diwylliant modern y rhyngrwyd a'i effaith ar yr enaid unigol mewn modd hynod sensitif a chyfrwys o ffraeth.
Cyflwynwyd y wobr £20,000 uchel ei bri i Lockwood am No One Is Talking About This (Bloomsbury Publishing) mewn seremoni yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe nos Iau 12 Mai, ddeuddydd yn unig cyn Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas.
Ar dderbyn y wobr, meddai Patricia Lockwood, a deithiodd yr holl ffordd o’r Unol Daleithiau i’r DU ond na allai fod yn y seremoni yn Abertawe, gwaetha’r modd, o ganlyniad i afiechyd: “Rwy'n eistedd yma yn fy ystafell mewn gwesty yn Llundain, wedi llyncu codin, ac rwyf ar ben fy nigon – yn wir, gydag ychydig bach yn fwy o godin, efallai y gallwn i berswadio fy hun bod Dylan Thomas yma gyda mi. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y wobr ei hun – dwi ddim yn gwybod a yw ar ffurf pyramid neu bêl grisial neu efelychiad o ben y dyn ei hun. Waeth beth am ei ffurf, rwy'n edrych ymlaen at glywed larymau'r systemau diogelwch yn canu pan af i â hi i'r maes awyr.
“Hoffwn i ddweud ychydig yn fwy yn y dyfodol am y ffordd y mae gwaith Dylan Thomas wedi dylanwadu arna i, ond am y tro hoffwn i fynegi parch ac edmygedd mawr tuag at bawb arall a gyrhaeddodd y rhestr fer, a diolch i'r wobr a Phrifysgol Abertawe am gefnogi llenorion ifanc. Gwaetha'r modd, dwi ddim yn un ohonyn nhw mwyach. Ond efallai mai dyna pam y ces i fy nhro eleni.”
Meddai Namita Gokhale, Cadeirydd y Beirniaid: “Mae No One Is Talking About This yn fyfyrdod hanfodol ar ddiwylliant ar-lein heddiw. Yn ogystal â bod yn enillydd amserol iawn, Patricia Lockwood yw llais cenhedlaeth o lenorion newydd a fagwyd dan bwysau parhaus newyddion amser real a'r cyfryngau cymdeithasol.
“Mae No One Is Talking About This yn bwrw golwg deifiol o ffraeth a blaengar ar ddiwylliant modern y rhyngrwyd, a'r profiad o gael trawma teuluol yn y byd modern. Mae’r llif ymwybod a geir yn y llyfr, sy'n debyg i ddyddiadur yn ei ansawdd, yn hynod fedrus wrth nodi'r effaith seicolegol arnon ni fel unigolion sydd wedi deillio o gael ein dieithrio a byw bywyd ar-lein yn ôl barn grŵp. Mae Lockwood yn llais newydd syfrdanol a chwbl wreiddiol. Rydyn ni'n falch bod aelodau panel Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe wedi penderfynu mai ei nofel gyntaf yw eu dewis ar gyfer y wobr yn 2022. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld cynnyrch nesaf yr unigolyn dawnus a digyfaddawd hwn.”
Cafodd y llyfr ei groesawu'n unfrydol gan y panel ehangach o feirniaid. Mae Rachel Trezise, awdur a chyn-enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, yn disgrifio nofel gyntaf Lockwood fel “llyfr sy’n herio ymdrechion i’w gategoreiddio ac yn bortread teimladwy a ffraeth, o wiriondeb treulio amser eithriadol ar-lein, yn ogystal â bod yn fyfyrdod taer ar reidrwydd cysylltiadau rhwng pobl”.
Roedd y nofelydd Alan Bilton o'r farn bod y llyfr “yn ddyfeisgar, yn glyfar ac yn hynod hunanymwybodol”, gan ddisgrifio Lockwood fel “nawddsant brodorion digidol, sydd wedi llywio drwy fyd Twitter ac sy'n gwybod bod drwg yn y caws.”
Disgrifiodd yr awdur straeon byrion Irenosen Okojie No One Is Talking About This fel “llyfr sy'n rhyfeddod abswrdaidd amserol. Mae'n finiog, yn ddeallusol ddeheuig ac yn llawn doethineb.” Meddai Luke Kennard, bardd o Brydain: “Rwy'n teimlo bod Nobody is Talking About This yn llyfr tragwyddol am adeg benodol. Mae'n dramateiddio ac yn dadansoddi ein heironi a'n pellter cyn mynegi digon o ing ac emosiwn i fy siglo i fy seiliau.”
Roedd y llyfrau eraill ar restr fer y wobr yn 2021 yn cynnwys: A Passage North gan Anuk Arudpragasam (Granta Books), Auguries of a Minor God gan Nidhi Zak/Aria Eipe (Faber), The Sweetness of Water gan Nathan Harris (Tinder Press/Headline Publishing Group), Open Water gan Caleb Azumah Nelson (Viking Press/Penguin General) a Filthy Animals gan Brandon Taylor (Daunt Books Publishing).
Mae Patricia Lockwood yn ymuno â rhestr o lenorion uchel eu bri sydd wedi ennill y wobr fawreddog hon, gan gynnwys Raven Leilani, Bryan Washington, Guy Gunaratne, Kayo Chingonyi, Fiona McFarlane a Max Porter.