Mae gwaith dadansoddi a wnaed gan Gynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) Prifysgol Abertawe, sef rhaglen allgymorth STEM ar gyfer ehangu mynediad a sefydlwyd yn 2012, wedi canfod bod y rhaglen yn cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc o ardaloedd tlawd drwy wella eu dyheadau gyrfa a'u barn am astudio gwyddoniaeth yn y brifysgol.
Mae rhaglen S4 yn darparu gweithgareddau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) a arweinir gan ymchwil, gan gynnwys gweithdai ymarferol, ysgolion haf a sesiynau arddangos gwyddoniaeth, ynghyd ag addysg ar-lein i bobl ifanc yn ne Cymru mewn ardaloedd tlawd a difreintiedig. Fe'i crëwyd i hyrwyddo diddordeb mewn pynciau STEM er mwyn cynyddu'r niferoedd sy'n dewis y pynciau hynny a gwella cyrhaeddiad yn y maes ymhlith pobl ifanc ddifreintiedig, gyda'r nod o gynyddu amrywiaeth y gweithlu ym maes gwyddoniaeth yng Nghymru.
Rhagdybiwyd ers amser maith fod gan bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig uchelgeisiau isel, ac o ganlyniad i hyn mae polisïau ac ymgyrch ariannol enfawr wedi canolbwyntio ar raglenni sy'n cynyddu dyheadau. Fodd bynnag, mae myfyrwyr o deuluoedd tlawd yn dal i fod yn llai tebygol o astudio gwyddoniaeth ar ôl cyrraedd 16 oed ac yn llai tebygol o lwyddo pan fyddant yn astudio’r pwnc.
Edrychodd gwaith dadansoddi a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar rai o ddyheadau gyrfa cyfranogwyr yn rhaglen S4, eu barn am wyddoniaeth a mynd i'r brifysgol, ac effaith dod i un o weithdai neu ddigwyddiadau S4. Daethpwyd i'r casgliad bod y bobl ifanc hyn yn uchelgeisiol ac yn hyderus yn eu galluoedd ym meysydd gwyddoniaeth a sgiliau ehangach, ond eu bod ar yr un pryd yn llwyr ymwybodol o'r rhwystrau go iawn y maent yn eu hwynebu wrth gyrraedd y brifysgol a datblygu'r gyrfaoedd o'u dewis, gan gynnwys pryderon am gost addysg. Aeth eu hathrawon ymhellach, gan grybwyll sgiliau llythrennedd a rhifedd isel, tlodi gartref, ynysu gwledig, anableddau, cyfrifoldebau gofalu, a beichiogrwydd yn ystod yr arddegau fel rhwystrau i addysg uwch i'w disgyblion.
Mae cenhadaeth S4 wedi cael ei hatgyfnerthu gan y gwaith dadansoddi hwn wrth i'r arolwg ddangos bod ymyriad y rhaglen ym maes gwyddoniaeth yn cael yr effaith fwyaf ar bobl ifanc o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol, yn enwedig wrth hybu uchelgeisiau a oedd eisoes yn bodoli o ran gwyddoniaeth ac addysg a chynyddu'r tebygolrwydd o fynd i'r brifysgol.
Meddai'r Athro Mary Gagen, sy'n arwain rhaglen S4 ar y cyd â Dr Will Bryan:
“Mae'r papur hwn yn crynhoi ein canfyddiadau am feddyliau a theimladau pobl ifanc ynghylch gwyddoniaeth ac addysg uwch o ddeng mlynedd gyntaf ein rhaglen. Ariennir S4 i ddeall anghenion allgymorth gwyddoniaeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd at ddibenion ehangu mynediad yng Nghymru. Mae swm anferth o arian yn cael ei wario ar geisio ehangu demograffeg gwyddonwyr ond mae llawer o'r gwaith ymchwil ac astudio yn cael ei wneud mewn dinasoedd mawr, yn Lloegr. Pan ddechreuodd S4, nid oedden ni'n gwybod beth oedd yr allgymorth gorau er mwyn hyrwyddo newid cadarnhaol wrth ehangu mynediad at addysg ym maes gwyddoniaeth yn y cyd-destunau cymdeithasol ac economaidd penodol yma yng Nghymru. Ceir llawer o ragdybiaethau ym maes allgymorth ac ymgysylltu â'r cyhoedd nad oes gan bobl o ddemograffeg na wasanaethir yn ddigonol ac nad yw'n cyfranogi'n helaeth yr uchelgais i ddilyn nodau gwyddoniaeth ac addysg uwch, ac nid yw hynny'n wir. Daeth ein gwaith gyda mwy na 26,000 o gyfranogwyr a 50 o ysgolion o hyd i lawer o wybodaeth am feddyliau a theimladau pobl ifanc ynghylch cyfranogiad ym meysydd gwyddoniaeth ac addysg uwch yng Nghymru a sut mae eu huchelgeisiau'n wynebu rhwystrau cymdeithasol ac economaidd.”
Mae'r gwaith dadansoddi wedi cael ei gyhoeddi yma.
Ceir rhagor o wybodaeth am S4 yma.