Defnydd grwpiau terfysgol o'r cyfryngau cymdeithasol, a sut gellir ei wrthsefyll, fydd yn cael prif sylw cynhadledd ryngwladol nodedig yn Abertawe, a fydd yn dod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a chynrychiolwyr o lywodraethau a chwmnïau technolegol mawr ledled y byd ynghyd.
Wedi'i threfnu gan Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton y Brifysgol, bydd cynhadledd TASM – a gynhelir ar 28 a 29 Mehefin – yn denu oddeutu 200 o gynrychiolwyr o 20 o wledydd.
Y peth mwyaf arwyddocaol am y digwyddiad yw'r arbenigedd eang digyffelyb o sectorau a gwledydd gwahanol y mae'n ei ddenu.
Bydd cynrychiolwyr o lywodraethau cenedlaethol a sefydliadau gorfodi'r gyfraith o'r DU, Iwerddon, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Canada, yr Unol Daleithiau a Seland Newydd, a chwmnïau technolegol megis Meta, Twitter, YouTube a TikTok, yn ymuno ag arbenigwyr academaidd o bedwar ban byd ac aelodau o Raglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig, cyrff anllywodraethol ac ymarferwyr sy'n gwrthwynebu eithafiaeth ar lawr gwlad o wledydd megis Nigeria, Sri Lanka ac Ynysoedd Philippines.
Er mwyn sicrhau bod rhannu gwersi rhyngwladol wrth wraidd y digwyddiad, mae'r Brifysgol wedi helpu i gefnogi cynrychiolwyr o wledydd yn Ne'r Byd i fod yn bresennol.
Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys:
• Eithafiaeth a phandemig Covid
• Etholiadau'r Unol Daleithiau a'r asgell dde eithafol
• Gemau fideo ac eithafiaeth dreisgar
• Defnydd terfysgwyr o'r technolegau diweddaraf (e.e. cryptoarian, cyllido torfol)
Darllenwch fwy am y gynhadledd
Bydd diwrnod cyntaf y gynhadledd yn canolbwyntio ar ddefnydd terfysgwyr o'r cyfryngau cymdeithasol. Er enghraifft, sut mae grwpiau terfysgol a'r rhai sy'n rhannu'r un meddylfryd yn defnyddio platfformau gwahanol; y tactegau a'r strategaethau a ddefnyddir i ledaenu propaganda ar-lein; ac effaith ymosodiad gan derfysgwyr ar gyhoeddiadau eithafwyr yn y cyfryngau cymdeithasol.
Sut i ymateb i'r bygythiad fydd testun yr ail ddiwrnod. Bydd arbenigwyr yn cymharu mathau gwahanol o ymateb ac awdurdodaethau a diwylliannau gwahanol ac yn trafod pa mor effeithiol a thryloyw y mae ymdrechion cwmnïau technoleg i reoleiddio eu platfformau a'u gwasanaethau.
Bydd y prif siaradwyr yn cynnwys:
• Pennaeth Polisïau Gwrthderfysgaeth a Sefydliadau Peryglus ar gyfer Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica, o Meta, y cwmni sy'n cynnwys Facebook ac Instagram.
• Arweinydd Polisi Cynnyrch Cyhoeddus YouTube, sy'n cynghori'r cwmni ar faterion sy'n ymwneud â rheoleiddio cynnwys ar-lein.
• Arweinydd Maes Polisi Byd-eang Twitter ynghylch Sefydliadau Treisgar.
• Adolygydd Annibynnol y DU o Ddeddfwriaeth ar Derfysgaeth.
Meddai Meghan Conroy, ymchwilydd gyda Thŷ'r Cynrychiolwyr yn yr Unol Daleithiau a Phennaeth Staff ARC (Accelerationism Research Consortium):
“Alla i ddim rhoi gormod o bwyslais ar bwysigrwydd y gwaith sy'n cael ei amlygu yn TASM 2022. Mae'r cyflwynwyr wedi dod at ei gilydd o ardaloedd, sectorau a disgyblaethau amrywiol, a galla i eich sicrhau bod llunwyr polisïau'n cadw llygad barcud ar y dulliau a'r syniadau arloesol y mae cyflwynwyr TASM yn eu rhoi ar waith.”
Meddai Dina Hussein o Meta, Pennaeth Polisïau Gwrthderfysgaeth a Sefydliadau Peryglus ar gyfer Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica:
“Mae TASM bob amser ar fy nghalendr. Mae'r gynhadledd mewn sefyllfa unigryw i ddod ag arbenigwyr ymarferol ym maes technoleg ac academyddion ynghyd i gyfrannu at drafodaeth adeiladol. Ar ôl cymryd rhan yn y fforwm hwn am flynyddoedd lawer, mae wedi bod yn bleser i mi ei weld yn datblygu ac yn tyfu ei gymuned. Rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu at y rhestr ardderchog o bynciau sy'n cael eu cyflwyno eleni.”
Meddai Janeen Fernando, sy'n gweithio i'r Cenhedloedd Unedig yn Sri Lanka:
“Mae patrymau mynegiant peryglus ar-lein yn dangos dylanwadau trawsffiniol sy'n cael eu lledaenu drwy blatfformau byd-eang. Mae angen seilio atebion ar gyd-destun, ond mae natur yr her yn golygu na fyddan nhw ar gael o fewn ffiniau cenedlaethol yn unig. Bydd angen cydweithrediad amrywiaeth o bartneriaid i addysgu, arloesi a chreu atebolrwydd am fannau ar-lein mwy diogel.”
Meddai Lisa McInerney, Arweinydd Maes Polisi Byd-eang Twitter ynghylch Sefydliadau Treisgar:
“Mae TASM yn ddigwyddiad anhepgor i unrhyw weithiwr proffesiynol sydd â'r dasg o ganolbwyntio ar derfysgaeth ac eithafiaeth dreisgar ar-lein. Mae'r cynulliad hwn o randdeiliaid yn rhoi cyfle i ni i gyd ymwneud ag ymchwil arloesol o safon sydd heb ei chyhoeddi eto, ac yn amlygu tueddiadau a nodwyd sy'n gallu ein cefnogi wrth graffu ar y gorwel. Mae'r safbwyntiau amrywiol yn TASM yn ein galluogi i ailarchwilio ein barn ac ymaddasu i ddarlun newidiol terfysgaeth.”
Trefnir y gynhadledd gan y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, ynghyd â rhwydwaith VOX Pol, sydd bellach yn cael ei gydlynu gan y Brifysgol.