Gallai ardal Abertawe fod yn ganolfan cynhyrchion naturiol – o fioblaladdwyr i ddewisiadau amgen naturiol ym maes cynhyrchion cosmetig a fferyllol – gan fod cyllid newydd gael ei gadarnhau am astudiaeth ddichonoldeb ynghylch sefydlu hyb newydd i gefnogi ymchwil a busnesau yn y sector hwn sy'n tyfu'n gyflym.
Byddai'r BioHYB yn rhoi mynediad at gyfleusterau ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf ym maes cynhyrchion naturiol, yn ogystal â chymorth i fusnesau newydd a hyfforddiant i gymunedau lleol.
Mae Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU er mwyn asesu a yw'r cynnig yn ymarferol.
Byddai'r BioHYB yn gyfleuster amlddefnydd unigryw i gefnogi sector cynhyrchion naturiol sy'n tyfu. Byddai'n cyfuno arbenigedd o'r byd academaidd, diwydiant a busnes, gan archwilio cynhyrchion a dulliau newydd sy'n ystyriol o'r amgylchedd.
Yn ogystal â chefnogi twf busnes yn y sector cynhyrchion naturiol, byddai hefyd yn arwain at fuddion i'r amgylchedd ac iechyd, drwy ddatblygu dewisiadau amgen sy'n fwy gwyrdd a chynaliadwy na chynhyrchion fferyllol ac amaethyddol.
Mae'r Athro Dan Eastwood, Arweinydd y Rhaglen, o Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe, yn esbonio cefndir a buddion posib y BioHYB:
“Mae cynhyrchion naturiol yn gwneud cyfraniad sylweddol at ansawdd ein bywydau. Mae eu gwerth unigryw yn ganlyniad miliynau o flynyddoedd o esblygu. Fodd bynnag, manteisiwyd ar ychydig iawn o'r gronfa enfawr o'r cyfansoddion bioweithredol hyn sydd ar gael yn hwylus o blanhigion, anifeiliaid a microrganebau.
Mae'r defnydd o gynhyrchion naturiol, yn enwedig ym meysydd cynhyrchion fferyllol a chosmetig, amaethyddiaeth a bwyd, yn tyfu. Ysgogir y galw cynyddol gan sawl ffactor, megis: datblygiad ymwrthedd i gemegion, yr effaith niweidiol ar iechyd pobl ac anifeiliaid, a'r effaith negyddol ar fioamrywiaeth a llygredd dŵr daear, yn ogystal â chyfyngiadau deddfwriaethol ar y defnydd o gemegion.
Mae gan Abertawe a'r ardaloedd cyfagos gynefin naturiol amrywiol, sy'n amrywio o'r arfordir i'r mynyddoedd, gan gynnig potensial anferth i gael gafael ar yr adnoddau naturiol hyn a mynd i'r afael â'r angen i'w defnyddio ymhellach. Yn ogystal â bod o fudd i'r amgylchedd a'r gymuned, bydd hyn yn creu swyddi a chyfleoedd busnes newydd.”
Meddai Dr Farooq Shah, Rheolwr Prosiect y BioHYB:
“Bydd y BioHYB yn galluogi partneriaid busnes a diwydiant i gydweithredu, defnyddio labordai, cyfarpar ac arbenigedd academaidd arbenigol, er mwyn meithrin cyfleoedd i dreialu ymagweddau newydd a syniadau arloesol ar lefel leol a manteisio i'r eithaf ar botensial adnoddau naturiol.
Bydd yr ymagwedd hyblyg hon yn lleihau risgiau a chostau i fusnesau newydd a chwmnïau deillio ac yn atgyfnerthu partneriaethau hirsefydlog y Brifysgol â busnesau a diwydiant, yn ogystal â meithrin mentrau cydweithredol newydd i wella'r gymuned drwy greu incwm a swyddi, gan hybu Economi Werdd yr ardal.”
Mae'r fenter yn rhan o brosiect cymorth i fusnesau ac adferiad gwyrdd ehangach yn Abertawe.
Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth:
“Rydyn ni'n falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe ar y cynllun hwn.
Bydd y BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn cyfrannu at y sector isadeiledd gwyrdd cynyddol drwy helpu busnesau newydd a phresennol i ddatblygu cynhyrchion naturiol sy'n seiliedig ar blanhigion a microbau. Bydd hyn yn creu rhagor o swyddi a chyfleoedd i'n cymuned leol yn y sector busnes gwyrdd.”
Meddai'r Cynghorydd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Drawsnewid Gwasanaethau:
“Mae'r cyngor yn canolbwyntio ar greu dyfodol gwyrdd a chynaliadwy ar gyfer Abertawe, ac mae uchelgais i fod yn ddinas sero net erbyn 2050 wrth wraidd y gwaith trawsnewid hwn. Mae datblygu isadeiledd gwyrdd yn allweddol er mwyn cyflawni hyn.
Bydd y prosiect hwn hefyd yn helpu i gynyddu swm y fioamrywiaeth yn ein hardal ac yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.”
Yn ogystal, bydd buddion uniongyrchol i'r gymuned leol yn deillio o'r BioHYB. Bydd yn ganolbwynt ar gyfer digwyddiadau a hyfforddiant cymunedol ac yn lleoliad i ennyn diddordeb pobl yn ymchwil y Brifysgol, megis gwaith yr Athro Tariq Butt a'i dîm ymchwil, yn y grŵp Bioreolaeth a Chynnyrch Naturiol (BANP).
Meddai'r Athro Tariq Butt:
“Bydd y cyfle i ennyn diddordeb y gymuned a dangos effaith ymchwil i botensial organebau – yn enwedig ffyngau a microalgâu – i ddarparu biomas a chyfansoddion newydd, gan gynnwys porthiant cemegol, cynhyrchion therapiwtig a maethol-fferyllol, ac i weithredu fel cyfryngau bioreolaeth a bioadferiad, yn hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o fuddion a photensial cynhyrchion naturiol i gefnogi dyfodol mwy gwyrdd a chynaliadwy.”