Bydd Parc Singleton yn cael goleuadau newydd er mwyn helpu i gadw myfyrwyr a staff yn ddiogel.
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Prifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe wedi cyrraedd cytundeb i osod rhagor o oleuadau ar hyd y llwybr sy'n arwain o brif gatiau'r parc.
Daw hyn ar ôl i fyfyrwyr fynegi pryderon am ddiogelwch a'r gallu i weld yr hyn sydd o'u cwmpas wrth gerdded drwy'r parc.
Mae Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol wedi cytuno i ariannu'r broses o osod y goleuadau newydd. Fel rhan o'r gwaith, mae arolwg ecolegol wedi cael ei gynnal ac mae'r prosiect wedi cael ei gymeradwyo. Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau a dylid ei gwblhau yn ystod yr haf.
Meddai Liza Leibowitz, Swyddog Lles Undeb y Myfyrwyr: “Dyma newyddion ardderchog i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn ogystal â'r gymuned leol. Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi llwyddo i gyrraedd y cytundeb hwn ar ôl blynyddoedd o adborth parhaus gan fyfyrwyr.
“Bydd y goleuadau newydd hyn yn rhoi sicrwydd ychwanegol ynghylch diogelwch i fyfyrwyr a'n cymdogion lleol. Hoffwn i ddiolch i swyddogion Undeb y Myfyrwyr yn y gorffennol a'r presennol am eu gwaith ar y prosiect hwn, ac i'r myfyrwyr am roi'r adborth sydd wedi ein galluogi i gyrraedd y sefyllfa hon.
“Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi bod yn help mawr, gan wneud yr holl waith paratoi a’n cefnogi ni’n aruthrol. Mae ef wedi sicrhau bod y goleuadau’n ecogyfeillgar ac na fydd effaith ar ecosystem wych y parc.
“Rwy'n gobeithio y bydd y goleuadau newydd yn rhoi sicrwydd ychwanegol i fyfyrwyr yn ystod eu cyfnod fel rhan o'n cymuned.”
Ychwanegodd Greg Ducie, Cyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Campws Prifysgol Abertawe: “Diogelwch ein cymuned yw ein prif flaenoriaeth ac rydym wrth ein boddau bod y prosiect hwn i oleuo rhan o'r parc yn dwyn ffrwyth.
“Bydd y goleuadau gwell yn ategu'r mesurau diogelwch rydyn ni wedi eu rhoi ar waith, gan gynnwys yr ap diogelwch Safezone, er mwyn sicrhau y gall ein myfyrwyr a'n staff fwynhau'r profiad rhagorol rydyn ni'n ei gynnig yma yn Abertawe, ar y campws ac oddi arno.”