Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw yn amlygu bod risg tanau gwyllt yn cynyddu'n fyd-eang o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, a bod hynny'n digwydd yn gyflymach na rhagamcanion modelau o'r hinsawdd.
Gwnaeth yr astudiaeth – a gafodd ei harwain gan Brifysgol East Anglia a'i llunio ar y cyd ag ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymchwil i Danau Gwyllt ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Caerwysg, Swyddfa Dywydd y DU a chyd-awduron rhyngwladol – asesu 500 o bapurau ymchwil blaenorol ac mae'n cynnwys dadansoddiad newydd o setiau data arloesol o fodelau ac arsylwadau lloeren. Mae'n dangos bod newid anthropogenig yn yr hinsawdd yn elfen sy'n cynyddu risg tanau gwyllt yn fyd-eang, yn ogystal â'r ffaith bod gweithredoedd pobl ar raddfeydd rhanbarthol yn gallu cynyddu neu leihau'r risg.
O ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, ceir mwy o dywydd poeth a sych sy'n gallu arwain at danau gwyllt, gan gynyddu risg tanau gwyllt mawr drwy wneud tirweddau'n fwy tebygol o losgi'n amlach ac mewn modd mwy difrifol. Mae pob gradd ddegol ychwanegol o gynhesu byd-eang yn cynyddu risg tanau gwyllt.
Mae modelau o'r hinsawdd yn awgrymu bod amlder tywydd sy'n gallu arwain at danau, mewn rhai rhannau o'r byd, er enghraifft y Canoldir ac ardal yr Amason, yn ddigynsail yn yr oes fodern o'i gymharu â'r hinsawdd hanesyddol ddiweddar, o ganlyniad i gynhesu byd-eang a achosir gan bobl o oddeutu 1.1°C. Os bydd tymereddau byd-eang yn cynhesu rhwng 2 a 3°C yn unol â'r trywydd presennol, bydd hyn yn wir bron ym mhob rhan o'r byd.
Mae modelau o'r hinsawdd hefyd yn dangos bod tebygolrwydd rhai o'r tanau gwyllt mwyaf diweddar a thrychinebus yng ngorllewin yr Unol Daleithiau, Awstralia a Chanada wedi cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i newid hanesyddol yn yr hinsawdd.
Mae gweithredoedd pobl yn cael effeithiau rhanbarthol ychwanegol ar danau gwyllt mewn byd sy'n cynhesu. Er enghraifft, rydym wedi cynyddu nifer yr achosion o daniadau a lleihau gallu naturiol rhai ecosystemau i wrthsefyll tanau, yn fwyaf nodedig ym mharthau datgoedwigo trofannol mawr yr Amason ac Indonesia.
Ar y llaw arall, gwnaethom leihau ymlediad tanau gwyllt mewn tirweddau a oedd yn tueddu'n naturiol i gael tanau drwy newid tir at ddibenion amaethyddiaeth a hollti'r llystyfiant naturiol, fel yr hyn a wnaed mewn coetiroedd gwelltog dros y degawdau diwethaf.
Rydym hefyd yn lleihau nifer y taniadau dieisiau neu'n defnyddio dulliau ymladd tân er mwyn atal tanau gwyllt, fel yr hyn a wnaed yn hanesyddol yng nghoedwigoedd yr Unol Daleithiau, Awstralia a'r Canoldir Ewropeaidd. Fodd bynnag, lle nad yw tanau'n rhan naturiol o weithrediad ecosystemau, mae eu hatal wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol.
Er enghraifft, arweiniodd polisïau a aeth ati'n egnïol i atal tanau o dirwedd gorllewin yr Unol Daleithiau yn ystod yr 20fed ganrif at gronni tanwyddau llystyfiant eithafol, gan gyfrannu at danau gwyllt mwy difrifol yn ystod cyfnodau diweddar o sychder. Mae defnyddio tanau dwysedd isel mewn modd a reolir ar adegau pan fo'r tywydd yn ddiogel yn ddull pwysig yn hyn o beth er mwyn cadw tanwyddau dan reolaeth wrth hwyluso gweithrediadau naturiol ecosystemau.
Meddai Dr Matthew M Jones, y prif awdur: “Gall tanau gwyllt gael effeithiau niweidiol anferth ar gymdeithasau, yr economi, iechyd a bywoliaeth pobl, bioamrywiaeth a storio carbon. Mae tanau gwyllt mewn coedwigoedd yn dwysáu'r effeithiau hyn yn gyffredinol.
“Mae egluro'r cysylltiad rhwng tueddiadau tanau gwyllt mewn coedwigoedd a newid yn yr hinsawdd yn hanfodol er mwyn deall bygythiadau tanau gwyllt yn hinsoddau'r dyfodol. Gall cymdeithasau ychwanegu at risgiau cynyddol tân o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, neu fynd ati i'w lleihau, a bydd gweithredoedd a pholisïau rhanbarthol yn bwysig er mwyn lleihau bygythiad tanau gwyllt.
“Fodd bynnag, yn y pen draw, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chyfyngu cynhesu i lai na 2°C yw'r peth mwyaf effeithiol y gallwn ni ei wneud i osgoi risgiau gwaethaf tanau gwyllt ar raddfa fyd-eang.”
Ychwanegodd Dr Cristina Santín, un o'r cyd-awduron: “Er bod amodau tywydd sy'n hwyluso tanau gwyllt eisoes wedi cynyddu ym mron pob rhan o'r byd ac y bydd hynny'n parhau, mae ffactorau sy'n ymwneud â phobl yn dal i leddfu neu wrthdroi'r rhai hinsoddol mewn llawer o ardaloedd.”
Dyma sylwadau'r Athro Stefan Doerr, un o'r cyd-awduron, i gloi: “Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn helpu i chwalu'r safbwyntiau sydd wedi eu hen sefydlu ac sy'n groes i'w gilydd ynghylch ai newid yn yr hinsawdd neu reoli tir yw gwir achos tanau gwyllt trychinebus.”
Mae'r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
- Cynyddodd hyd y tymor tywydd tanau blynyddol 14 o ddiwrnodau fesul blwyddyn (27%) rhwng 1979 a 2019 ar gyfartaledd yn fyd-eang a chynyddodd amlder y diwrnodau lle cafwyd tywydd tanau eithafol 10 niwrnod y flwyddyn (54%) rhwng 1979 a 2019.
- Mae tywydd tanau wedi cynyddu'n sylweddol yn y rhan fwyaf o ranbarthau’r byd ers y 1980au. Pan fydd cynhesu'n cyrraedd 3°C, bydd bron pob rhan o'r byd yn cael tywydd tanau digynsail.
- Mae effeithiau dynol rhanbarthol ar y cyd â chynhyrchiant llai mewn glaswelltiroedd wedi lleihau'r arwynebedd sy'n cael ei losgi gan dân yn y coetiroedd gwelltog helaeth, ond cafwyd cynnydd mawr mewn mannau eraill, yn enwedig mewn coedwigoedd tymherus a boreal. Er enghraifft, mae'r arwynebedd sy'n cael ei losgi wedi cynyddu 21,400 km2 (93%) mewn coedwigoedd yn nwyrain Siberia a 3,400 km2 (54%) yng nghoedwigoedd gorllewin Gogledd America.